Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, urges constituents to make sure they have the chance to vote in elections.
Mr Rowlands is backing a call from Wrexham County Borough Council who are currently updating their electoral register.
He said:
As most people know I am very passionate about making sure residents have their say on local issues and it is vitally important you have the opportunity to vote for your representatives.
Wrexham council is currently carrying out its annual canvass so now is the time to check your registration details to make sure you do not miss out.
If you are not registered then you will be unable to vote so I would urge residents, particularly those who have moved house, to make sure they are signed up.
Ian Bancroft, Returning Officer at Wrexham Council, said:
Keep an eye out for important updates from Wrexham Council on here and our social media pages. The annual canvass is our way of making sure that the information on the electoral register for every address is accurate and up to date. To make sure you don’t lose your say at any upcoming elections in Wales, simply follow the instructions sent to you.
If you’re not currently registered, your name will not appear in the updates we send. If you want to register, the easiest way is online at www.gov.uk/register-to-vote.
Recent home movers in particular are urged to check their details, as they are less likely to be registered than those who have lived at the same address for a long time. In Wales, 95% of those who have lived in their home for 16 years will be registered, compared with 53% of people who have lived at an address for less than two years.
Information on registering to vote is available on the Electoral Commission website.
If you have any questions about your registration status, you can email the electoral services team at [email protected].
Sam Rowlands AS yn galw ar bobl i wirio eu manylion cofrestru etholiadol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog etholwyr i sicrhau eu bod yn cael y cyfle i bleidleisio mewn etholiadau.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi galwad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sydd ar hyn o bryd yn diweddaru ei gofrestr etholiadol.
Meddai:
Fel y gŵyr y rhan fwyaf o bobl, rwy'n angerddol iawn ynghylch sicrhau bod preswylwyr yn cael dweud eu dweud ar faterion lleol ac mae'n hanfodol bwysig eich bod yn cael y cyfle i bleidleisio dros eich cynrychiolwyr.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Wrecsam yn gwneud ei ganfasio blynyddol felly nawr yw'r amser i wirio’ch manylion cofrestru i sicrhau nad ydych chi’n colli allan.
Os nad ydych chi wedi cofrestru yna fyddwch ddim yn cael pleidleisio. Felly byddwn yn annog trigolion, yn enwedig y rhai sydd wedi symud tŷ, i sicrhau eu bod wedi cofrestru.
Meddai Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau Cyngor Wrecsam:
Cadwch lygad am ddiweddariadau pwysig gan Gyngor Wrecsam yma ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Y canfasio blynyddol yw ein ffordd o sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir ac yn gyfredol. Er mwyn sicrhau nad ydych chi’n colli’r cyfle i ddweud eich dweud mewn unrhyw etholiadau sydd ar ddod yng Nghymru, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonir atoch.
Os nad ydych chi wedi cofrestru, ni fydd eich enw'n ymddangos yn y diweddariadau y byddwn yn eu hanfon. Os ydych chi eisiau cofrestru, y ffordd hawsaf o wneud hynny yw ar-lein yn www.gov.uk/register-to-vote.
Mae pobl sydd wedi symud cartref yn ddiweddar yn benodol yn cael eu hannog i wirio eu manylion, gan eu bod yn llai tebygol o fod wedi cofrestru na'r rhai sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad ers amser maith. Yng Nghymru, bydd 95% o'r rhai sydd wedi byw yn eu cartref ers 16 mlynedd wedi’u cofrestru, o'i gymharu â 53% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na dwy flynedd.
Mae gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich statws cofrestru, gallwch e-bostio'r tîm gwasanaethau etholiadol yn [email protected].