Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed a new wellbeing garden at Wrexham Maelor Hospital.
Mr Rowlands has praised the work of staff, students and volunteers who have been working together to install state-of-the-art outdoor equipment to support people learning to use prosthetics and to create a wellbeing garden.
Mr Rowlands said:
It is great to see everyone, including people who use the Posture and Mobility Service in Wrexham, coming together to help enhance the garden outside the Artificial Limb and Appliance Centre (ALAC) at Wrexham Maelor Hospital.
It is vitally important that we have these sort of spaces for people with a permanent or long term impairment so they can have somewhere to go to help with their rehabilitation.
I was also delighted to hear about the tireless work of two Glyndwr University placement students Caroline Thomas, for Occupational Therapy, and Jill Plumber, physiotherapy, who took on the project of tidying, developing and enhancing the garden. Well done to everyone involved.
ALAC provides a range of services for people with a permanent or long-term impairment, including Artificial Limb Service, posture and mobility (wheelchairs), artificial eye service, and others.
Katie Davis, Prosthetics Clinical Lead, said:
The outside area has been transformed and they have engaged and worked with service users and we have seen the benefits first hand, with service users telling us how it’s improved their quality of life.
They secured funding and grants for the project to buy items including a long-handled gardening tool for allow service users to work in the garden too from a seated position as well as standing. We also received a grow your own garden kit from Keep Wales Tidy, which they have installing for us.
The work of Caroline and Jill has been tireless, and the service aim to grow this project with the support of current staff and future students from Glyndwr University.
The new state of the art equipment has some challenging obstacles designed to mimic walking in different environments and includes a walkway with cobbles, grass and blocks, to help people with a prosthetic leg to learn how to walk on different types of ground. There are also steps and a slope to help with gait training.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at ardd les newydd yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu gardd les newydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae Mr Rowlands wedi canmol gwaith staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn cydweithio i osod offer awyr agored o’r radd flaenaf i gefnogi pobl sy’n dysgu defnyddio aelodau prosthetig ac i greu gardd les.
Dywedodd Mr Rowlands:
Mae’n wych gweld pawb, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd yn Wrecsam, yn dod at ei gilydd i helpu i wella’r ardd y tu allan i’r Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC) yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae’n hanfodol bwysig bod lleoedd o’r fath ar gael i bobl â nam parhaol neu hirdymor fel bod rhywle ar gael i’w helpu i adsefydlu.
Roeddwn hefyd yn falch iawn o glywed am waith diflino dwy fyfyrwraig ar leoliad o Brifysgol Glyndŵr, Caroline Thomas ym maes therapi galwedigaethol, a Jill Plumber, ym maes ffisiotherapi, a aeth i’r afael â’r prosiect o dacluso, datblygu a gwella’r ardd. Llongyfarchiadau i bawb a fu ynghlwm wrth y prosiect.
Mae ALAC yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i bobl sydd â nam parhaol neu hirdymor, gan gynnwys Gwasanaeth Aelodau Artiffisial, ystum corff a symudedd (cadeiriau olwyn), gwasanaeth llygaid artiffisial a mwy.
Dywedodd Katie Davis, Arweinydd Clinigol Aelodau Prosthetig:
Mae’r ardal allanol wedi cael ei thrawsnewid, a diolch i drafod a chydweithio gyda defnyddwyr y gwasanaeth, gwelwyd y buddion yn amlwg, gyda defnyddwyr y gwasanaeth yn sôn sut mae wedi gwella ansawdd eu bywydau.
Sicrhawyd cyllid a grantiau i’r prosiect brynu eitemau gan gynnwys teclyn garddio coes hir i ganiatáu i ddefnyddwyr y gwasanaeth weithio yn yr ardd ar eu heistedd yn ogystal ag ar eu traed. Derbyniwyd pecyn tyfu eich gardd eich hun gan Cadwch Gymru’n Daclus, ac maen nhw wedi ei osod i ni.
Mae Caroline a Jill wedi gweithio’n ddiflino, ac mae’r gwasanaeth yn bwriadu datblygu’r prosiect hwn gyda chefnogaeth staff presennol a darpar fyfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr.
Mae’r offer newydd diweddaraf yn efelychu rhai o’r rhwystrau heriol wrth gerdded mewn gwahanol amgylcheddau ac mae’n cynnwys llwybr cerdded gyda cherrig crynion, glaswellt a blociau i helpu pobl sydd â choes prosthetig i ddysgu sut i gerdded ar wahanol fathau o dir. Mae grisiau a llethr yma hefyd i helpu gyda hyfforddiant osgo cerdded.