Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that four schools in North Wales will receive funding to fix faulty concrete work.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government recently raised the issue in the Welsh Parliament and called for urgent action.
He said:
I am obviously delighted to hear that at last the Welsh Labour Government has announced that money is going to be made available to cover the cost of remedial works where reinforced autoclaved aerated concrete (RAAC) has been identified.
I recently raised the matter in the Welsh Parliament after hearing about how RAAC was affecting children’s education in four schools in North Wales.
I welcome news of the funding but I am disappointed that the funds were not allocated sooner to the school.
In today’s announcement four schools in North Wales, Ysgol David Hughes and Ysgol Uwchradd Caergybi, on Ynys Môn, Ysgol Maes Owen in Kinmel Bay and Ysgol Trefnant as well as one school in South Wales will get £2.5m for work on buildings which have faulty concrete.
The Welsh Government funding is part of a £12.5m package for improving school and college buildings.
It will be spent on maintenance such as replacing roofs, windows, heating and ventilation and electrical systems, and will provide an opportunity to adopt energy-saving measures.
Sam Rowlands AS yn falch o glywed bod cyllid ar gael bellach i ysgolion sydd wedi'u heffeithio gan RAAC
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion y bydd pedair ysgol yn y Gogledd yn derbyn arian i drwsio gwaith concrit diffygiol.
Yn ddiweddar fe wnaeth Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol godi'r mater yn y Senedd gan alw am weithredu ar frys.
Meddai:
Wrth gwrs, rwy'n falch iawn o glywed bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi o’r diwedd y bydd arian ar gael i dalu cost gwaith adfer concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC).
Fe wnes i godi'r mater yn Senedd Cymru yn ddiweddar ar ôl clywed sut roedd RAAC yn effeithio ar addysg plant mewn pedair ysgol yng Ngogledd Cymru.
Dwi'n croesawu'r newyddion am y cyllid ond yn siomedig na chafodd yr arian ei ddyrannu’n gynt i'r ysgol.
Yn sgil y cyhoeddiad heddiw bydd pedair ysgol yn y Gogledd, sef Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi ar Ynys Môn, Ysgol Maes Owen ym Mae Cinmel ac Ysgol Trefnant yn ogystal ag un ysgol yn y De yn cael £2.5m ar gyfer gwaith ar adeiladau sydd â choncrid diffygiol.
Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn rhan o becyn gwerth £12.5m ar gyfer gwella adeiladau ysgolion a cholegau.
Bydd yn cael ei wario ar waith cynnal a chadw megis ailosod toeau, ffenestri, gwresogi ac awyru a systemau trydanol, ac yn gyfle i fabwysiadu mesurau arbed ynni.