The Welsh Government’s new, default 20mph speed limit is due to be fully enforced from next Monday, and Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has shared his frustration with the Labour/Plaid Cymru policy.
Mr Rowlands, who has constantly opposed and campaigned against the legislation said:
I really can’t quite believe we have finally come to this, with motorists potentially facing criminalisation for driving at a speed that was considered safe only a year ago.
The default 20mph speed limit has to be one of the Welsh Government’s more barmy and ill thought out policies. It is deeply unpopular and you would think that in the democratic world we live in public opinion would count, but not in Wales where vanity projects rule.
Despite numerous calls for this crazy law to be scrapped and almost half a million people signing a petition against it, from Monday, 18 March full enforcement of the 20mph speed limit will begin.
This ridiculous legislation continues to cause chaos, frustration and confusion across North Wales and people are absolutely fed up of the continued hassle being caused by this barmy law.
It is totally crazy having to drive at 20mph along a road where there have been no accidents just to satisfy the whim of the Welsh Labour government.
Sam Rowlands AS yn beirniadu gorfodi'r terfyn cyflymder 20mya yn llawn
Mae disgwyl i derfyn cyflymder newydd 20mya diofyn Llywodraeth Cymru gael ei orfodi'n llawn ddydd Llun nesaf, ac mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi rhannu ei rwystredigaeth gyda pholisi Llafur/Plaid Cymru.
Meddai Mr Rowlands, sydd wedi gwrthwynebu ac ymgyrchu'n gyson yn erbyn y ddeddfwriaeth:
Alla i ddim credu ei bod hi wedi dod i hyn yn y pen draw, gyda modurwyr yn wynebu cael eu trin fel troseddwyr am yrru ar gyflymder a ystyriwyd yn ddiogel flwyddyn yn ôl.
Mae'n siŵr mai terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya yw un o bolisïau mwyaf dwl a difeddwl Llywodraeth Cymru. Mae'n amhoblogaidd iawn a byddech chi'n meddwl y byddai barn y cyhoedd yn cyfrif yn y byd democrataidd rydym ni’n byw ynddo, ond nid felly y mae yng Nghymru lle mae prosiectau mympwyol yn frenin.
Er gwaetha'r holl alwadau am ddileu'r gyfraith wallgof hon a bron i hanner miliwn o bobl yn llofnodi deiseb yn ei herbyn, bydd y terfyn cyflymder 20mya yn cael ei orfodi'n llawn ddydd Llun, 18 Mawrth.
Mae'r ddeddfwriaeth hurt hon yn parhau i achosi anhrefn, rhwystredigaeth a dryswch ledled y Gogledd ac mae pobl wedi cael llond bol ar y trafferthion parhaus sy'n cael eu hachosi gan y gyfraith wirion hon.
Mae'n hollol wallgof gorfod gyrru ar gyflymder o 20mya ar hyd ffordd lle na fu unrhyw ddamweiniau, dim ond i fodloni mympwy llywodraeth Lafur Cymru.