Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, sees at firsthand the services now offered at opticians.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, recently visited Specsavers in Broughton to mark National Eye Health Week.
He said:
I was delighted to have the opportunity to visit Specsavers and see for myself the facilities and equipment they have on site.
It was good to learn more about how Welsh opticians, which offer NHS eye services, provide support to patients with urgent eye care problems and following changes last year patients can now seek treatment from optometry practices like Specsavers for eye problems.
I definitely think working with the private sector like this is a step in the right direction as it all helps to bring down ophthalmology waiting lists within the Welsh NHS.
I am not sure that everyone realises the many services offered by local opticians these days and I am happy to help raise awareness of this.
The new optometry contract terms of service, Wales General Ophthalmic Services, for primary care optometry providers were officially launched as of 20 October 2023, representing a significant reform of optometry services.
As part of the changes brought in, all Welsh optometry practices providing NHS eye services also now provide support to patients for urgent eye care problems.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid
Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn gweld gyda’i lygaid ei hun y gwasanaethau sydd bellach yn cael eu cynnig gan optegwyr.
Yn ddiweddar, ymwelodd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, â Specsavers ym Mrychdyn i nodi Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i ymweld â Specsavers a gweld drosof fy hun y cyfleusterau a'r offer sydd ganddyn nhw ar y safle.
Roedd hi’n dda dysgu mwy am sut mae optegwyr Cymru, sy'n cynnig gwasanaethau llygaid y GIG, yn rhoi cymorth i gleifion sydd â phroblemau gofal llygaid brys ac yn dilyn newidiadau y llynedd, gall cleifion nawr geisio triniaeth gan bractisau optometreg fel Specsavers ar gyfer eu problemau llygaid.
Rwy'n bendant yn credu bod gweithio gyda'r sector preifat fel hyn yn gam i'r cyfeiriad cywir gan fod y cyfan yn helpu i ostwng rhestrau aros offthalmoleg GIG Cymru.
Dydw i ddim yn siŵr fod pawb yn sylweddoli’r ystod o wasanaethau a gynigir gan optegwyr lleol bellach, ac rwy'n hapus i helpu i godi ymwybyddiaeth o hyn.
Lansiwyd telerau gwasanaeth y contract optometreg newydd, Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru, ar gyfer darparwyr optometreg gofal sylfaenol yn swyddogol ar 20 Hydref 2023, ac mae wedi golygu cryn ddiwygio i wasanaethau optometreg Cymru.
Fel rhan o'r newidiadau a gyflwynwyd, mae holl bractisau optometreg Cymru sy'n darparu gwasanaethau llygaid y GIG hefyd bellach yn darparu cymorth i gleifion sydd â phroblemau gofal llygaid brys.