Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a business initiative being held across the county this month.
Mr Rowlands, a keen supporter of any events to help local businesses said:
I am delighted to see the return of Denbighshire Council’s March for Business campaign and urge anyone wanting help with their business to take advantage of what is on offer.
It is great to see so the many different events planned which offer free and valuable advice and information to help our local businesses.
Several events are being held this week but there is still plenty of other opportunities to get involved. These days more than ever it is vitally important that local companies are supported and the March for Business 2024 is definitely one not to miss.
The successful March For Business campaign, will be the sixth business month run by the council, returning after a successful campaign last year.
This year there are a number of exciting events planned which will be hosted at various locations across the county and online. These events will include a mixture of networking events and workshops.
The events planned will be delivered in partnership with external support providers Business Wales, RCS, Federation of Small Businesses, Food & Drink Skills Wales, West Cheshire & North Wales Chamber of Commerce & more.
For more information, please go to the webpage.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at ymgyrch Mis Mawrth Menter yn Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, yn cefnogi menter fusnes a gynhelir ar draws y sir y mis hwn.
Dywedodd Mr Rowlands, sy’n cefnogwr brwd o unrhyw ddigwyddiadau i helpu busnesau lleol:
Rwy’n falch iawn o weld ymgyrch Mis Mawrth Menter Cyngor Sir Ddinbych yn ei hôl ac yn annog unrhyw un sydd eisiau cymorth gyda’u busnes i fanteisio ar yr hyn sy’n cael ei gynnig.
Mae’n wych gweld cymaint o wahanol ddigwyddiadau wedi’u cynllunio sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth gwerthfawr am ddim i helpu ein busnesau lleol.
Mae sawl digwyddiad yn digwydd wythnos yma ond mae yna lawer o gyfleoedd eraill i gymryd rhan hefyd. Mae’n bwysicach nag erioed bod cwmnïau lleol yn cael eu cefnogi ac mae Mis Mawrth Menter 2024 yn gyfle di-ail i wneud hynny.
Yr ymgyrch Mis Mawrth Menter fydd y chweched mis busnes i’w gynnal gan y cyngor, ac mae’n dychwelyd ar ôl ymgyrch lwyddiannus y llynedd.
Eleni, mae yna nifer o ddigwyddiadau cyffrous wedi’u trefnu a fydd yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar draws y sir ac ar-lein. Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau rhwydweithio a gweithdai.
Bydd y digwyddiadau sydd wedi’u trefnu yn cael eu darparu mewn partneriaeth â darparwyr cymorth allanol sef Busnes Cymru, RCS, Ffederasiwn y Busnesau Bach, Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru a mwy.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r dudalen we.