Cliciwch yma i weld y Saesneg | Click here for English
Y Bil
Bydd y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ymweliad Addysg Awyr Agored preswyl wythnos o hyd ar ryw adeg yn ystod eu gyrfa ysgol. Bydd y Bil hefyd yn rhoi cyllid ar waith i alluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i ddarparu'r profiadau cyffrous hyn i'n pobl ifanc. Cliciwch yma i ddweud wrtha i a ydych chi'n cefnogi'r bil.
Cafodd y Bil drafft ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2023. Cliciwch yma i ddarllen y Bil ar-lein.
Cefndir
Mae'r rhai ar y meinciau cefn yn y Senedd yn gallu cymryd rhan mewn pleidlais o bryd i'w gilydd i gael eu dewis i ddatblygu darn newydd o ddeddfwriaeth. Pan fydd cynnig AS yn cael ei ddewis yn y bleidlais, bydd y Senedd gyfan yn pleidleisio ar a ddylid treulio amser ar ddatblygu bil i weithredu'r ddeddfwriaeth newydd.
Dewiswyd cynnig Sam am Fil Addysg Awyr Agored mewn pleidlais ym mis Gorffennaf 2022, a phleidleisiodd Senedd Cymru o drwch blewyn o blaid y bil ar 26 Hydref 2022, gyda 25 o Aelodau o’r Senedd yn cefnogi’r bil a 24 yn pleidleisio yn ei erbyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y pleidleisiodd pob Aelod o’r Senedd yma a darllen y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd i Aelodau o’r Senedd cyn y ddadl yma.
Canlyniadau
Nod y Bil yw symud Addysg Awyr Agored breswyl o weithgarwch cyfoethogi i hawl yng nghwricwlwm Cymru. Dyma'r prif fanteision i ddysgwyr Cymru:
- Gwell iechyd a lles corfforol a meddyliol,
- Gwell dysgu personol a chymdeithasol, yn ogystal â datblygiad gwybyddol,
- Gwell cyrhaeddiad a safonau addysgol.
Pam
Gyda ffyrdd iachach o fyw a gwell safonau addysg, mae manteision ymweliadau Addysg Awyr Agored preswyl i bobl ifanc yn glir. Fodd bynnag, nid oes gofyn i awdurdodau lleol sicrhau bod y cyfle hwn ar gael i bobl ifanc. Mae tystiolaeth yn dangos bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn amrywio’n fawr a’r ffaith bryderus yw bod plant sy'n byw yn ardaloedd mwyaf cefnog Cymru ddwywaith yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn ymweliad Addysg Awyr Agored preswyl na'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd â lefelau amddifadedd uchel. Does dim ffordd y gall y loteri cod post annheg hon barhau. Rhaid i ni fod â’r dyhead o weld pob ysgol ledled Cymru yn galluogi eu dysgwyr i gyrraedd eu potensial. Dydy hi ddim yn iawn bod pobl ifanc o ardaloedd llai cefnog yn colli allan. Bydd y Bil yn ymestyn y cyfle i brofi ymweliad Addysg Awyr Agored preswyl wythnos o hyd i blant ym mhob cwr o Gymru, a gwneud ein system addysg yn fwy teg fel nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
Cost
Ni fydd hyn yn bosib heb y cyllid angenrheidiol. Mae blaenoriaethau ariannol o fewn awdurdodau lleol yn newid wrth i'r pwysau ar draws eu gwasanaethau amrywio. Bydd y Bil yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cyfle newydd hwn i'n pobl ifanc, gan sicrhau bod y polisi newydd yn gynaliadwy. Yr amcangyfrifon cychwynnol yw y bydd y Bil yn costio rhwng £9.9 miliwn a £13.6 miliwn y flwyddyn, sef llai na 0.06% o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae potensial i'r Bil sicrhau arbedion cost i wasanaethau cyhoeddus eraill drwy well canlyniadau iechyd, lles ac addysg. Mae hwn yn fuddsoddiad fforddiadwy yn nyfodol pobl ifanc Cymru na ddylen ni ei golli.
Sut gallwch chi helpu
Nid pawb sy'n gwybod fod ganddyn nhw bum Aelod o'r Senedd yn eu cynrychioli, un Aelod o'r Senedd sy'n cynrychioli eu hetholaeth a phedwar sy'n cynrychioli eu rhanbarth. Os ydych chi'n cefnogi'r Bil Addysg Awyr Agored, gallwch gysylltu â'ch ASau a gofyn iddyn nhw ei gefnogi hefyd - mae angen 31 o gefnogwyr arnom er mwyn i'r Bil basio a dod yn gyfraith. Gallwch ddefnyddio eich cod post i ddod o hyd i'ch pum Aelod o'r Senedd ac ysgrifennu atynt drwy fynd i writetothem.com. A chofiwch glicio yma i ddweud wrtha i a ydych chi'n cefnogi'r bil.
Cliciwch yma i fynd i wefan y Senedd i ddysgu mwy fyth am y Bil Addysg Awyr Agored.