Sam Rowlands MS, Member of the Senedd for North Wales, has criticised Gwynedd Council for backing a campaign to abolish the Prince of Wales, and ban any future investiture from the country. This is despite recent polling that shows almost two thirds of Welsh people supporting Prince William taking on the role of the Prince of Wales, and around half supporting an investiture ceremony.
Gwynedd Council debated the campaign at a meeting on 6th October 2022, which was backed by the Council’s leadership. Commenting on the news, Sam said:
It’s disappointing that Gwynedd Council are spending time backing ‘out of touch’ campaigns such as this, rather than focusing on tackling the real issues that face local council tax payers. It was only six weeks ago that a Gwynedd Council meeting about education descended into chaos, with the police being asked to attend, so I would really think that Gwynedd Council have better things to be focusing on.
One of the reasons cited by Gwynedd Council’s leadership for backing the campaign is that Prince William is English. Commenting further, Sam said:
I was genuinely surprised to hear a senior Gwynedd councillor suggesting that Prince William isn’t suitable for the role because he was born in England. I would have hoped that Gwynedd Council would have reached out to the new Prince of Wales and encouraged him to act as an ambassador for Welsh culture, rather than making childish comments that can only sow division in public life.
Beirniadu Cyngor Gwynedd am ymgyrchu yn erbyn Tywysog Cymru
Mae Sam Rowlands AS, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi beirniadu Cyngor Gwynedd am gefnogi ymgyrch i ddiddymu Tywysog Cymru, a gwahardd unrhyw arwisgo o’r wlad yn y dyfodol. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod arolwg diweddar yn dangos bod bron i ddwy ran o dair o bobl Cymru o blaid gweld y Tywysog William yn ymgymryd â rôl Tywysog Cymru, a bod oddeutu eu hanner o blaid cynnal arwisgiad.
Bu Cyngor Gwynedd yn dadlau am yr ymgyrch mewn cyfarfod ar 6 Hydref 2022 a gefnogwyd gan arweinyddiaeth y Cyngor. Yn rhoi ei sylwadau ar y newyddion, dywedodd Sam:
Mae’n siomedig bod Cyngor Gwynedd yn treulio amser yn cefnogi ymgyrchoedd amherthnasol i bobl fel hon, yn hytrach na chanolbwyntio ar fynd i’r afael â phroblemau go iawn sy’n wynebu trethdalwyr lleol. Dim ond chwe wythnos yn ôl y trodd cyfarfod Cyngor Gwynedd am addysg yn dipyn o ffars, gyda’r heddlu yn cael eu galw, felly does bosib bod gan Gyngor Gwynedd bethau gwell i ganolbwyntio arnyn nhw.
Un o’r rhesymau a nodwyd gan arweinwyr Cyngor Gwynedd dros gefnogi’r ymgyrch yw mai Sais yw’r Tywysog William. Gan roi sylwadau pellach, dywedodd Sam:
Roedd hi wir yn dipyn o fraw i mi glywed un o uwch gynghorwyr Gwynedd yn awgrymu nad yw’r Tywysog William yn addas i’r swydd gan ei fod wedi’i eni yn Lloegr. Byddwn wedi gobeithio y byddai Cyngor Gwynedd wedi mynd ati i annog y Tywysog newydd i weithredu fel llysgennad dros ddiwylliant Cymru, yn hytrach na gwneud sylwadau plentynnaidd sydd ond yn mynd i blannu rhaniad mewn bwyd cyhoeddus.