Commenting on the news that some Councils in Wales will not be able to provide even basic services after a huge black hole was found in public finances, Welsh Conservative Shadow Local Government Minister, Sam Rowlands MS said:
Councils go above and beyond in delivering the vital public services that our local communities rely on.
The Welsh Government’s unfair and inadequate Local Government Funding Formula sees councils sit on over £2.75bn in useable reserves, all whilst some councils are warning they won’t be able to even provide basic services - something doesn't add up.
With the Welsh Government being responsible for the funding of our councils, urgent action must be taken to review the funding formula, support our councils, and the Welsh Government must outline what services and responsibilities they expect councils to cut.
Twll du enfawr yng nghyllid cynghorau Cymru
Wrth ymateb i'r newyddion na fydd rhai cynghorau yng Nghymru yn gallu darparu gwasanaethau sylfaenol ar ôl canfod twll du enfawr mewn cyllid cyhoeddus, dywedodd Gweinidog Llywodraeth Leol Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands AS:
Mae cynghorau’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl yn darparu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae ein cymunedau lleol yn dibynnu arnyn nhw.
Mae Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol annheg ac annigonol Llywodraeth Cymru yn golygu bod cynghorau’n eistedd ar dros £2.75bn mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio, er bod rhai cynghorau'n rhybuddio na fyddan nhw'n gallu darparu gwasanaethau sylfaenol hyd yn oed - dyw hynny ddim yn gwneud synnwyr.
Gyda Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am ariannu ein cynghorau, rhaid cymryd camau brys i adolygu'r fformiwla ariannu, cefnogi ein cynghorau, a rhaid i Lywodraeth Cymru amlinellu pa wasanaethau a chyfrifoldebau maen nhw'n disgwyl i gynghorau eu torri.