A Labour council cabinet member has been accused of “making a mockery of local democracy” after she was caught knitting during a committee appearance where she was meant to be defending their decision to make cuts of £11m to services in Monmouthshire.
Commenting, Welsh Conservative Shadow Local Government Minister Sam Rowlands MS said:
This behaviour is quite insulting and makes a mockery of local democracy. It is rather shocking to see such a flippant attitude by Labour when they’re supposed to be defending their £11m worth of cuts despite a better than expected financial settlement.
Residents expect their councillors – especially the ones running the local authority – to be paying attention in meetings where the very fabric of public service delivery in the area is under question.
The incident also clearly supports the hesitations I have already spoken about regarding an overreliance on hybrid meetings, with councillors using it to evade their responsibilities, while missing out on building new relationships, skills, and experiences.
Let’s see Labour needle their way out of this one.
This follows reports of a member of the public carrying out what appeared to be a sex act on Zoom during a meeting of Flintshire Council’s cabinet earlier this month.
Cynghorydd yn gwau gan wneud democratiaeth leol yn destun gwawd
Mae aelod o gabinet cyngor y Blaid Lafur wedi'i chyhuddo o "wneud democratiaeth leol yn destun gwawd" wedi iddi gael ei dal yn gwau yn ystod ymddangosiad pwyllgor lle'r oedd hi i fod yn amddiffyn eu penderfyniad i wneud toriadau gwerth £11 miliwn i wasanaethau yn Sir Fynwy.
Gan gyfeirio at hynny, meddai Sam Rowlands AS, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig:
Mae'r ymddygiad hwn yn sarhad ac yn gwneud democratiaeth leol yn destun gwawd. Mae'n frawychus gweld agwedd mor wamal gan y Blaid Lafur pan maen nhw i fod yn amddiffyn eu toriadau sy'n werth £11 miliwn er gwaethaf setliad ariannol gwell na'r disgwyl.
Mae trigolion yn disgwyl i'w cynghorwyr – yn arbennig y rhai sy'n rhedeg yr awdurdod lleol – dalu sylw mewn cyfarfodydd lle mae pob agwedd ar ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal dan y chwyddwydr.
Mae'n amlwg bod y digwyddiad yn ategu'r pryderon rwyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes ynghylch gorddibyniaeth ar gyfarfodydd hybrid, gyda chynghorwyr yn ei ddefnyddio i osgoi eu cyfrifoldebau, gan golli’r cyfle i feithrin cysylltiadau, sgiliau, a phrofiadau newydd yr un pryd
Gadewch i ni weld Llafur yn ceisio cyfiawnhau’r sefyllfa hon.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau am aelod o'r cyhoedd yn cyflawni'r hyn a oedd yn ymddangos fel gweithred ryw ar Zoom yn ystod cyfarfod o gabinet Cyngor Sir y Fflint yn gynharach y mis hwn.