Sam Rowlands, MS for North Wales, has been hearing all about two new housing projects in Wrexham.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, recently visited two sites which will provide vital affordable flats for the adult social care sector.
He said: “I was delighted to see at firsthand what is being done in Wrexham to help vulnerable people.
“I am well aware of the problems local authorities have in trying to provide suitable accommodation in their areas so I was pleased to spend time with members of Wrexham Borough Council and Clwyd Alyn Housing Association to discuss the projects.
“It was good to see plans for the former night shelter site which CHA have bought and plan to build 20 self- contained flats for the homeless and those needing housing support.
“I was also impressed with Maes Dderwen, a new extra care development in the centre of the town to provide over 50 flats for older people who want to live independently but need additional support.”
Sam was joined on his visit by staff from WCBC's Housing department and independent Group Cllr. David Griffiths, the council’s Executive Board Member for Housing.
During the meeting he also discussed new housing developments across North Wales, with a focus on new developments providing affordable housing and ways to help younger people get on the property ladder.
AS YN YMWELD Â PHROSIECTAU TAI YN WRECSAM
Mae Sam Rowlands, AS y Gogledd, wedi bod yn clywed am ddau brosiect tai newydd yn Wrecsam.
Yn ddiweddar, bu Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid yn ymweld â dau safle a fydd yn darparu fflatiau fforddiadwy hollbwysig ar gyfer y sector gofal cymdeithasol i oedolion.
Meddai: “Roeddwn i wrth fy modd yn gweld yr hyn sy’n cael ei wneud yn Wrecsam i helpu pobl agored i niwed.
“Rwy’n ymwybodol iawn o’r problemau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth geisio darparu llety addas yn eu hardaloedd felly roeddwn i’n falch iawn o gael treulio amser gydag aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn i drafod y prosiectau.
“Roedd hi’n braf cael gweld cynlluniau ar gyfer hen safle’r lloches nos y mae’r Gymdeithas Tai wedi’i brynu ac yn bwriadu adeiladu 20 fflat hunangynhwysol ar gyfer pobl ddigartref a’r rhai sydd angen cymorth tai.
“Gwnaeth Maes Derwen argraff arna i hefyd, sef datblygiad gofal ychwanegol newydd yng nghanol y dref i ddarparu dros 50 o fflatiau ar gyfer pobl hŷn sydd am fyw’n annibynnol ond sydd angen cymorth ychwanegol.”
Ymunwyd â Sam ar ei ymweliad gan staff o adran dai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Cynghorydd o’r Grŵp Annibynnol, David Griffiths, Aelod Bwrdd Gweithredol y Cyngor ar gyfer tai.
Yn ystod y cyfarfod, trafododd ddatblygiadau tai newydd ledled y Gogledd hefyd, gyda ffocws ar ddatblygiadau newydd sy’n darparu tai fforddiadwy a ffyrdd o helpu pobl iau i gael eu troed ar yr ysgol eiddo.
Photos available for download below.