North Wales MS Sam Rowlands and Clwyd West MS Darren Millar have both praised Wales’ first and only outdoor activity provider offering husky rides and sleddog experiences after paying them a visit last week.
The two Welsh Conservative politicians were both impressed by Mynydd Sleddog Adventures, which is situated in the county of Conwy, within the forest trails of Bwlch Hafod Einion near Llyn Brenig and Alwen Reservoir, after receiving a tour of the attraction from company director Joe Swiffen.
During their visit they were introduced to the team of 18 dogs, made up from a range of breeds including Siberian Huskies, Scandinavian Hounds, Alaskan Huskies and a German Short Haired Pointer.
The attraction, which opened in 2019, offers opportunities for individuals, families and groups to enjoy their very own exhilarating husky rides and experiences with their team of racing sled dogs and is proving popular due to its uniqueness.
Commenting after their visit, Sam said:
Joe had a dream and with Mark’s support, together they have realised it. After many years of training and racing sled dogs in the UK and abroad, they decided to embark on this exciting adventure and what they have created it quite remarkable.
Sadly the weather was too hot for Darren and myself to enjoy a ride, but we did get to meet the impressive team of dogs, who are all beautiful.
I urge anyone looking for a unique experience to look into visiting Mynydd Sleddog Adventures, who guarantee to provide you with an experience you will never forget!
Darren said:
It was great to visit Mynydd Sleddog Adventures and to learn more about the amazing experiences they provide and I commend Joe and Mark for all they have achieved since they opened the attraction in 2019, particularly given the challenges of the pandemic.
I am delighted that the first and only attraction of this kind in Wales is based here in my constituency. It is already proving popular and I’m sure that as word spreads about the exciting experiences on offer, more will be flocking to visit.
I thank Joe and Mark for taking the plunge and providing this fantastic attraction here in North Wales and wish them continued success for the future.
The adventures on offer at Mynydd Sleddog Adventures includes:
Meet the Team - A unique opportunity for individuals, families or groups to immerse themselves in sleddog sports; meet our working sled dogs, interact with them and watch a race team training session through the forest. Followed by a cup of hot chocolate and stories of sleddog sports and racing through history.
Race Team - An amazing fast paced experience, taking a husky ride on our passenger cart, pulled by a 6-dog team of racing dogs through the beautiful undulating South Alwen Forest trails, surrounded by picturesque open moorland, rolling Welsh hills and the Snowdon range in the distance. Afterwards, enjoy a cup of hot chocolate and stories of sleddog sports and racing through history.
To find out more about Mynydd Sleddog Adventures, visit their website: https://mynyddsleddogadventures.com
To book your Mynydd Sleddog Adventure, contact Joe on 01745 777022 or email: [email protected].
Aelodau o’r Senedd yn ymweld â darparwr gweithgareddau awyr agored cyntaf Cymru sy’n cynnig reidiau hysgwn a phrofiadau cŵn llusg
Mae’r AS dros Ogledd Cymru, Sam Rowlands, ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi canmol darparwr gweithgareddau awyr agored cyntaf yng Nghymru, a’r unig un ar hyn o bryd, sy’n cynnig reidiau hysgwn a phrofiadau cŵn llusg phrofiadau cysgu ar ôl ymweld â nhw yr wythnos diwethaf.
Gwnaeth Mynydd Sleddog Adventures, sydd wedi’i leoli yn sir Conwy, ar lwybrau coedwig Bwlch Hafod Einion ger Llyn Brenig a Chronfa Ddŵr Alwen, gryn argraff ar y ddau wleidydd o’r Ceidwadwyr Cymreig, wedi iddyn nhw fwynhau taith o amgylch yr atyniad gyda chyfarwyddwr y cwmni, Joe Swiffen.
Yn ystod eu hymweliad, fe’u cyflwynwyd i’r tîm o 18 o gŵn, yn cynnwys bridiau amrywiol fel hysgwn Siberia, helgwn Sgandinafaidd, hysgwn Alaska a chyfeirgi byrflew Almaenaidd.
Mae’r atyniad, a agorodd yn 2019, yn cynnig cyfleoedd i unigolion, teuluoedd a grwpiau fwynhau eu reidiau hysgwn a phrofiadau hudolus gyda thîm o gŵn llusg rasio, ac mae’n boblogaidd oherwydd ei natur unigryw.
Ar ôl eu hymweliad, dywedodd Sam:
Roedd gan Joe freuddwyd a chyda chefnogaeth Mark, gyda’i gilydd maen nhw wedi ei gwireddu. Ar ôl blynyddoedd lawer o hyfforddi a rasio cŵn llusg yn y DU a thramor, penderfynodd y ddau gychwyn ar yr antur gyffrous hon ac maen nhw wedi creu rhywbeth rhyfeddol.
Yn anffodus, roedd y tywydd yn rhy boeth i Darren a minnau fwynhau taith cŵn llusg, ond fe gawson ni gyfarfod â’r tîm trawiadol o gŵn, sydd i gyd mor brydferth.
Rwy’n annog unrhyw un sy’n chwilio am brofiad unigryw i ystyried ymweld â Mynydd Sleddog Adventures, sy’n sicr o fod yn brofiad bythgofiadwy!
Dywedodd Darren:
Roedd yn wych ymweld â Mynydd Sleddog Adventures a dysgu mwy am y profiadau anhygoel sydd ar gael yno. Rwy’n canmol Joe a Mark am bopeth y maen nhw wedi’i gyflawni ers iddyn nhw agor yr atyniad yn 2019, yn enwedig o ystyried heriau’r pandemig.
Rwy’n falch iawn bod yr atyniad hwn, y cyntaf a’r unig un o’i fath yng Nghymru, yma yn fy etholaeth. Mae eisoes yn boblogaidd ac rwy’n siŵr, wrth i’r sôn fynd ar led am y profiadau cyffrous sydd ar gael, y bydd mwy yn heidio i ymweld â nhw.
Diolch i Joe a Mark am fentro a darparu’r atyniad gwych hwn yma yn y gogledd. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol.
Mae’r anturiaethau sydd ar gael yn Mynydd Sleddog Adventures yn cynnwys:
Cyfarfod â’r tîm – cyfle unigryw i unigolion, teuluoedd neu grwpiau ymgolli mewn chwaraeon cŵn llusg; cyfarfod â’r cŵn gwaith, rhyngweithio â nhw a gwylio sesiwn hyfforddi tîm rasio drwy’r goedwig. Gyda phaned o siocled poeth a straeon am hanes chwaraeon a rasio cŵn llusg.
Y tîm rasio - profiad cyflym anhygoel, gyda thaith hudolus ar ein sled deithio wedi’i thynnu gan dîm o chwech ci rasio drwy lwybrau hardd Coedwig De Alwen, yng nghanol rhostir agored hardd, bryniau gwyrdd Cymru gyda’r Wyddfa a’i chriw yn y pellter. Yna cyfle i fwynhau paned o siocled poeth a chlywed straeon am hanes chwaraeon a rasio cŵn llusg.
I gael gwybod mwy am Mynydd Sleddog Adventures, ewch i’w gwefan: https://mynyddsleddogadventures.com
I archebu lle yn Mynydd Sleddog Adventures, cysylltwch â Joe ar 01745 777022 neu e-bostiwch: [email protected].