Sam Rowlands MS for North Wales and Darren Millar MS for Clwyd West have expressed delight at news of a cash boost for Ruthin Rugby Club.
Sam Rowlands said:
I am delighted to see funds being awarded for a project in North Wales and pleased that Ruthin Rugby Club will receive a £25,000 grant to enable them to improve their facilities.
The money will be used to renovate their clubhouse providing a larger seating area, new kitchen and upgrades to their toilet / changing room facilities for more suitable access for all.
It has once again been a very difficult year for most of us and it is great to see support for schemes like this which ultimately benefit the community.
Darren Millar said:
Ruthin Rugby Club is an important part of community life in the town so I'm delighted to see this investment it its facilities.
Last year was tough for many community sports organisations so support like this is more vital than ever.
I wish everyone at the club, especially the players and volunteers, all the very best for 2022.
The money is part of a £7 million a year which has been allocated to support Wales’ voluntary sector which provides grant schemes of up to £250,000 for the improvement of local community projects and facilities.
The funding is provided to the Third Sector Support Wales and the partnership comprises of 20 organisations, 19 County Voluntary Councils supporting each county area and the national membership body for voluntary organisations, Wales Council for Voluntary Action, WCVA.
The long-standing Community Facilities Programme provides small and large grants to well-used community projects to improve their sustainability and provide opportunities for local people to improve their day-to-day lives. Announced every three months, it is split into pots of under £25,000 and up to £250,000.
CEO of WCVA, Ruth Marks, said:
Third Sector Support Wales is a unique partnership supporting local, regional and national charitable and voluntary action. Our members are active in every community and make a significant contribution in every walk of life. This financial support will enable us to maintain and develop our services to meet current and emerging needs in the sector.
Applications for the Community Facilities Programme are open year-round and organisations can find out more on the Welsh Government website.
ASau yn croesawu newyddion am gyllid i gefnogi gwelliannau i Glwb Rygbi Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru a Darren Millar AS Gorllewin Clwyd wedi mynegi llawenydd yn y newyddion am hwb ariannol i Glwb Rygbi Rhuthun.
Dywedodd Sam Rowlands:
Rydw i'n falch iawn o weld arian yn cael ei ddyfarnu ar gyfer prosiect yn y Gogledd ac yn falch y bydd Clwb Rygbi Rhuthun yn derbyn grant gwerth £25,000 i'w alluogi i wella ei gyfleusterau.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu ystafelloedd y clwb gan ddarparu ardal eistedd fwy, cegin newydd ac uwchraddio eu toiledau / cyfleusterau ystafell newid er mwyn cael mynediad mwy addas i bawb.
Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i'r rhan fwyaf ohonom ni unwaith eto ac mae'n wych gweld cefnogaeth i gynlluniau fel hyn sydd yn y pen draw o fudd i'r gymuned.
Meddai Darren Millar:
Mae Clwb Rygbi Rhuthun yn rhan bwysig o fywyd cymunedol y dref felly rydw i'n falch iawn o weld y buddsoddiad hwn yn ei gyfleusterau.
Roedd y llynedd yn anodd i lawer o sefydliadau chwaraeon cymunedol felly mae cefnogaeth fel hyn yn fwy hanfodol nag erioed.
Rydw i'n dymuno'r gorau i bawb yn y clwb ar gyfer 2022, yn enwedig y chwaraewyr a'r gwirfoddolwyr.
Mae'r arian yn rhan o £7 miliwn y flwyddyn sydd wedi'i ddyrannu i gefnogi sector gwirfoddol Cymru sy'n darparu cynlluniau grant o hyd at £250,000 ar gyfer gwella prosiectau a chyfleusterau cymunedol lleol.
Darperir yr arian i Gefnogi Trydydd Sector Cymru ac mae'r bartneriaeth yn cynnwys 20 o sefydliadau, 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol sy'n cefnogi pob ardal sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol.
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol hirsefydlog yn darparu grantiau bach a mawr i brosiectau cymunedol a ddefnyddir yn aml i wella eu cynaliadwyedd ac i ddarparu cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd. Cyflwynir y grantiau bob tri mis, ac mae wedi'i rannu'n botiau o £25,000 a llai a hyd at £250,000.
Meddai Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol CGGC:
Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn bartneriaeth unigryw sy'n cefnogi gweithredu elusennol a gwirfoddol lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae ein haelodau'n weithgar ym mhob cymuned ac yn gwneud cyfraniad sylweddol ym mhob agwedd ar fywyd. Bydd y cymorth ariannol hwn yn ein galluogi i gynnal a datblygu ein gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion presennol y sector a'r anghenion sy'n dod i'r fei.
Mae ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar agor gydol y flwyddyn a gall sefydliadau ddysgu mwy ar wefan Llywodraeth Cymru.