The Remembrance period is a time for reflection and gratitude. It is a time when we thank those who have served, and those who are still serving. A time for remembering those who have paid the ultimate sacrifice in defence of our country and the values that unite us.
I attended a Remembrance Sunday event at St. George and laid a wreath. There were many similar events, big and small, held across Wrexham, Flintshire and indeed the whole United Kingdom. The Remembrance Weekend (Armistice Day fell on Saturday this year) is a moment not only to unify the country, but to consecrate our bond with those that have come before us in the long history of our proud island nation.
When considering this history, symbolism plays an important part. The most iconic symbol of Remembrance is the poppy, which originally sprung up amongst the mud, death and destruction of the Western Front during the First World War.
The Royal British Legion have been selling poppies for over a century, and are still active in supporting veterans and their families. Whilst November is a focal point for what they do, their hard work takes place all year round. In Wales alone, the Legion has a remarkable 175 Branches, 30 Clubs and 15,740 members and continues to support servicemen and women from more recent conflicts such as Afghanistan and the Falklands.
It can often feel like there are irrevocable divisions in our society, especially in the age of social media and instant commentary. Remembrance is a time where we should put those divisions to one side and honour those who gave their lives for our futures. We Will Remember Them.
If you have any queries or issues, please don’t hesitate to get in touch. You can contact me by emailing [email protected] or calling on 0300 200 7267.
Fy marn i - The Leader
Mae cyfnod y Cofio yn amser i fyfyrio a diolch. Mae'n amser i ni ddiolch i'r rhai sydd wedi gwasanaethu, a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn cofio'r rhai a gollodd eu bywydau er mwyn amddiffyn ein gwlad a'r gwerthoedd sy'n ein huno.
Mynychais ddigwyddiad Sul y Cofio yn San Siôr a gosodais dorch. Cynhaliwyd llawer o ddigwyddiadau tebyg, bach a mawr, ledled Wrecsam, Sir y Fflint a'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae Penwythnos y Cofio (roedd Diwrnod y Cofio ar ddydd Sadwrn eleni) yn amser nid yn unig i uno'r wlad, ond i gysegru ein cwlwm â'n cyndeidiau a aeth o’n blaen, sy'n rhan o hanes hir yr ynys hon.
Wrth ystyried yr hanes hwn, mae symbolaeth yn chwarae rhan mor bwysig. Symbol mwyaf eiconig y Cofio yw'r pabi, a dyfodd yn wreiddiol yng nghanol y mwd, y marwolaethau a’r dinistr ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi bod yn gwerthu'r pabi coch ers dros ganrif, ac mae'n parhau i gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd. Er bod mis Tachwedd yn ganolbwynt i waith y Lleng Brydeinig, mae'n gweithio'n galed gydol y flwyddyn. Yng Nghymru yn unig, mae gan y Lleng 175 o Ganghennau, 30 o Glybiau a 15,740 o aelodau, ac mae'n parhau i gefnogi dynion a menywod a fu'n gwasanaethu mewn rhyfeloedd mwy diweddar fel Affganistan a'r Falklands.
Weithiau mae'n hawdd teimlo bod yna raniadau yn ein cymdeithas na ellir eu goresgyn, yn enwedig yn oes y cyfryngau cymdeithasol a sylwadau uniongyrchol. Mae cyfnod y Cofio yn adeg pan ddylem roi'r holl raniadau hynny i'r naill ochr ac anrhydeddu'r rhai a gollodd eu bywydau er mwyn sicrhau dyfodol i ni. Ni a’u Cofiwn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu. Gallwch gysylltu â mi drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 200 7267.