Last week was our first back down in the Welsh Parliament after the Christmas recess, and it was a busy one for me!
I spoke on a range of topics which are important to people in our area, which is one of the most interesting parts of my job.
For example, I called for a statement regarding a proposed housing development in Rossett. Residents there are concerned about flood risks and mandatory housing standards not being adhered to despite clear Welsh Government guidance. The Minister (who is also Senedd Member for Wrexham!) said a statement wasn’t needed, but it’s clear to me we need urgent clarity over the Rossett development.
I also tabled an urgent question about the announcement from Arriva that they’ll be changing every bus service in North Wales as a result of the Labour Government’s default 20mph speed limit.
This will have a terrible impact on people in our area. So many rely on those bus routes and the default 20mph speed limit has directly led to routes being ditched or altered.
The Minister responding didn’t seem to understand that, and it’s obvious many in Welsh Labour have a Cardiff-centric attitude to everything. That doesn’t work for us in North Wales!
I also spoke in a debate about the PISA results, which is an international comparison of education systems. Wales got the worst results in the United Kingdom, and its results were worse than the global OECD average.
Labour have run the education system in Wales since the start of devolution in 1999. Every single time PISA have run their tests, Wales is rock bottom in the UK.
That’s not good enough for our children who are having their life chances damaged by Labour.
If you do have any queries or issues, then please feel free to contact me by emailing [email protected]
Fy marn i - The Leader
Yr wythnos diwethaf oedd yr wythnos gyntaf yn ôl i lawr yn y Senedd ar ôl gwyliau’r Nadolig, ac roedd hi’n un brysur i mi!
Fe wnes i siarad ar amrywiaeth o bynciau sy'n bwysig i bobl yn ein hardal, sef un o elfennau mwyaf diddorol fy swydd.
Er enghraifft, fe wnes i alw am ddatganiad ynghylch datblygiad tai arfaethedig yn yr Orsedd. Mae trigolion yno yn poeni am beryglon llifogydd ac nad yw safonau tai gorfodol yn cael eu bodloni er gwaethaf canllawiau clir Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Gweinidog (sydd hefyd yn Aelod o'r Senedd dros Wrecsam!) nad oedd angen datganiad, ond mae'n amlwg i mi fod angen eglurder brys ynglŷn â’r datblygiad yn yr Orsedd.
Fe wnes i hefyd gyflwyno cwestiwn brys am y cyhoeddiad gan Arriva y byddan nhw'n newid pob gwasanaeth bws yng Ngogledd Cymru o ganlyniad i derfyn cyflymder cyffredinol 20mya y Llywodraeth Lafur. Bydd hyn yn cael effaith ofnadwy ar bobl yn ein hardal. Mae cymaint yn dibynnu ar y gwasanaethau bysiau hynny ac mae'r terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya wedi arwain yn uniongyrchol at wasanaethau yn cael eu dileu neu eu newid.
Doedd y Gweinidog a oedd yn ymateb ddim fel petai’n deall hynny, ac mae'n amlwg fod llawer yn Llafur Cymru yn cael trafferth gweld heibio Caerdydd. Dyw hynny ddim yn gweithio i ni yn y Gogledd!
Fe wnes i siarad hefyd mewn dadl am ganlyniadau PISA, sy'n gymhariaeth ryngwladol o systemau addysg. Cymru oedd â’r canlyniadau gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, ac roedd ei chanlyniadau yn waeth na chyfartaledd yr OECD byd-eang.
Mae Llafur wedi bod yng ngofal y system addysg yng Nghymru ers dechrau datganoli ym 1999. Bob tro mae PISA wedi cynnal eu profion, Cymru sydd ar waelod y domen yn y DU.
Dyw hynny ddim yn ddigon da i'n plant, y mae Llafur yn chwalu eu cyfleoedd bywyd. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu broblemau, cofiwch fod croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bostio [email protected]