You may have heard the Welsh Parliament will be expanding from 60 members to 96 at the next Senedd elections in 2026.
As part of those package of changes, the Welsh Government want to implement gender quotas.
That means political parties will be forced to have a set number of women and men standing as candidates, no matter what the voters want.
It’s been in the news again recently because a Senedd Committee has warned that the quota plans could be disrupted by legal challenges.
In short, that’s because legislation around equalities is in the hands of the UK Government and Westminster, not the Welsh Government and Cardiff Bay.
That means the Welsh Government cannot and should not legislate in that particular policy area.
Additionally, the Bill contains provision for gender self-ID meaning someone can identify as the opposite sex.
For example, a man could identify as a woman, which in turn would enable him to get elected under the female quota.
The Equality and Human Rights Commission has even said that this could be “unlawful”.
In short, the Welsh Government are spending time, money and energy on areas they don’t have the power to legislate in.
To my mind, the whole thing is a mess and is completely unnecessary. When there are huge issues to tackle – like NHS waiting lists or poor education outcomes – bringing in things like gender quotas is navel-gazing at best.
At worst, it’s an assault on the democratic system, and taking power away from voters like you.
That’s not to mention the Senedd’s new electoral system for 2026, which will remove your right to vote for a single, named candidate.
Instead, you’ll be voting for a list of candidates chosen by the party. It takes power away from the voters and gives it all to the party machines, no matter what colour rosette they wear.
Parties are pretty powerful nowadays as it is, and this move will entrench that power. In my view, elected representatives are there to serve the people in our area, not people behind the scenes in political party structures.
I call on the Labour-run Welsh Government to think again on this, and do what is right for Wales.
As ever, if you have any queries or issues you’d like to raise with me, then you can get in touch by emailing [email protected].
Fy marn i - The Leader
Efallai eich bod wedi clywed y bydd y Senedd yn ehangu o 60 aelod i 96 yn etholiadau nesaf y Senedd yn 2026.
Fel rhan o’r pecyn hwn o newidiadau, mae Llywodraeth Cymru eisiau gweithredu cwotâu rhywedd.
Mae hynny’n golygu y bydd pleidiau gwleidyddol yn cael eu gorfodi i gael nifer penodol o fenywod a dynion yn sefyll fel ymgeiswyr, waeth beth yw dymuniad pleidleiswyr.
Mae wedi bod yn y newyddion eto’n ddiweddar gan fod un o bwyllgorau’r Senedd wedi rhybuddio y gallai heriau cyfreithiol amharu ar y cynlluniau cwota.
Yn gryno, mae hynny oherwydd bod deddfwriaeth ynghylch cydraddoldeb yn nwylo Llywodraeth y DU a San Steffan, nid Llywodraeth Cymru a Bae Caerdydd.
Mae hynny’n golygu na all ac na ddylai Llywodraeth Cymru ddeddfu yn y maes polisi penodol hwnnw.
Hefyd, mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer hunan-adnabod rhywedd, sy’n golygu y gall rhywun uniaethu fel y rhyw arall.
Er enghraifft, gallai dyn uniaethu fel menyw, a fyddai yn ei dro yn ei alluogi i gael ei ethol o dan y cwota benywaidd.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hyd yn oed wedi dweud y gallai hyn fod yn “anghyfreithlon”.
Yn y bôn, mae Llywodraeth Cymru’n treulio amser, arian ac egni ar feysydd nad oes ganddyn nhw’r pŵer i ddeddfu ynddyn nhw.
Hyd y gwela i, mae’r holl beth yn llanast ac yn hollol ddiangen. Pan mae yna faterion enfawr i fynd i’r afael â nhw – fel rhestrau aros y GIG neu ganlyniadau addysg gwael – hollti blew yw cyflwyno pethau fel cwotâu rhywedd.
Ar y gwaethaf, mae’n ymosodiad ar y system ddemocrataidd, ac yn cymryd pŵer oddi wrth bleidleiswyr fel chi.
Mae hynny heb sôn am system etholiadol newydd y Senedd ar gyfer 2026, a fydd yn cael gwared ar eich hawl i bleidleisio dros un ymgeisydd a enwir.
Yn hytrach, byddwch yn pleidleisio dros restr o ymgeiswyr a ddewisir gan y blaid. Mae’n tynnu pŵer oddi wrth y pleidleiswyr ac yn rhoi’r cyfan yn nwylo’r pleidiau, waeth pa blaid maen nhw’n ei chynrychioli.
Mae pleidiau’n eithaf pwerus y dyddiau hyn fel y mae hi, a bydd y cam hwn yn ymwreiddio’r pŵer hwnnw. Yn fy marn i, mae cynrychiolwyr etholedig yno i wasanaethu’r bobl yn ein hardal, nid pobl y tu ôl i’r llenni yn strwythurau’r pleidiau gwleidyddol.
Rwy’n galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ailystyried hyn, a gwneud yr hyn sy’n iawn i Gymru.
Fel erioed, os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu faterion yr hoffech eu codi gyda mi, yna gallwch gysylltu â mi drwy e-bostio [email protected].