With 2022 and another year coming to an end, it’s always great to reflect back on what will have been a challenging year for many, but also a very prosperous and successful one for others.
Throughout 2022 we have seen a number of challenges facing people across Wrexham, Flintshire and North Wales, much of which has been exacerbated by Putin’s barbaric invasion of our European ally, Ukraine.
The cost-of-living challenge and the rising cost of energy facing many households following the illegal war against Ukraine is causing much distress and uncertainty for too many.
When looking closer to home, the people of Wrexham, Flintshire and North Wales continue to be let down by the Welsh Labour Government with some of the worst NHS waiting times across the whole of Great Britain, along with inadequate transport links, and lower wages than the South of Wales.
Yet when reflecting back on 2022, there are also many positives. Following the awful Covid-19 pandemic, our communities have finally come back to the normal times that we are used to.
It’s crucial to note that despite some of the challenges that we’re facing, we're currently living in a place and a time where life is better than ever before.
Across the UK, we have near full employment, a welfare system that is one of the most supportive in the world, we're making great strides towards a sustainable and green country, and we have a freedom of democracy that we should never take for granted.
For some, 2023 will be a year of a fresh start, with new ambitions and goals, whilst for some, it will be a year to build on their success from 2022.
I wish you all a very happy and prosperous New Year. Let’s do our best to ensure 2023 is a fantastic year, full of opportunity and good for ourselves, friends, family, neighbours, and our country.
Please feel free to contact me by emailing [email protected] or calling on 0300 200 7267.
Fy marn i - The Leader
Gyda 2022 a blwyddyn arall yn dod i ben, mae hi’n braf bob amser edrych yn ôl ar flwyddyn go heriol i lawer, ond un ffyniannus a llwyddiannus i eraill hefyd.
Mae pobl ledled Wrecsam, Sir y Fflint a gweddill y Gogledd wedi bod trwy sawl storm gydol 2022, sefyllfa a waethygwyd gan ymosodiad barbaraidd Putin ar Wcráin, ein cynghreiriad Ewropeaidd.
Mae'r her costau byw a chost gynyddol ynni sy'n wynebu llawer o aelwydydd yn dilyn y rhyfel anghyfreithlon yn erbyn Wcráin yn achosi cryn boen meddwl ac ansicrwydd i ormod o lawer o bobl.
Yn nes adref, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i siomi pobl Wrecsam, Sir y Fflint a gweddill y Gogledd gyda rhai o amseroedd aros gwaethaf y GIG ar draws gwledydd Prydain, ynghyd â chysylltiadau trafnidiaeth annigonol a chyflogau is na’r De.
Ond mae llawer o bethau cadarnhaol hefyd wrth inni gnoi cil ar 2022. Wedi pandemig ofnadwy Covid-19, mae ein cymunedau wedi dychwelyd i fywyd mwy cyfarwydd o'r diwedd.
Er gwaethaf rhai o’r heriau sy'n ein hwynebu, rhaid cofio ein bod ni'n byw mewn cyfnod lle mae bywyd yn well nag erioed o'r blaen.
Ledled y DU, mae gennym gyflogaeth lawn fwy neu lai, system les sydd gyda'r mwyaf cefnogol yn y byd, rydyn ni'n cymryd camau breision tuag at fod yn wlad gynaliadwy a gwyrdd, ac mae gennym ryddid democratiaeth na ddylem fyth ei gymryd yn ganiataol.
I rai, bydd 2023 yn flwyddyn o ddechrau newydd, gydag uchelgeisiau a nodau newydd, ac i eraill, bydd yn flwyddyn i adeiladu ar lwyddiant 2022.
Dymunaf Flwyddyn Newydd hapus a ffyniannus iawn i bob un ohonoch. Gadewch i ni wneud ein gorau glas i sicrhau bod 2023 yn flwyddyn wych, yn llawn cyfleoedd ac yn dda i ni ein hunain, ein ffrindiau, ein teuluoedd, ein cymdogion a'n gwlad.
Mae croeso i chi gysylltu â mi trwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 200 7267.