Whenever I’m outside Wales, I’m always a huge advocate for our country – in particular North Wales!
Our great outdoors are among the very best in the world and we are widely known for our incredible array of castles.
Lots of people want to see those things, and a small country like Wales having a thriving tourism sector should be seen as a great thing. It is a sign of national confidence and demonstrates our appeal around the globe.
After all, tourism is responsible for roughly 5% of Welsh GDP and supports around 1 in 7 jobs in North Wales.
Without a healthy tourism industry, our economic prospects take a big hit. That is something we cannot afford.
That’s why I’m disappointed at Welsh Government policies on tourism, with a proposed Tourism Tax and a new punishingly high occupancy threshold for holiday lets.
Firstly, the Tourism Tax. We still don’t know how much the charge will be, but in an ultra-competitive environment for tourists, putting a few quid per night on a holiday will be off-putting.
This is particularly important as it will have an outsized impact on many staycationers – people from within Wales and the United Kingdom who are looking for a place in Britain to holiday.
We need our tourism industry to be as competitive as possible to attract people, not putting up barriers.
After all, if people decide to holiday in Blackpool instead of Bala, that means less money in the pockets of people in the area. Less money for the pubs, restaurants and fewer jobs too.
Secondly, the holiday let occupancy threshold. Welsh Government have put a 182-day threshold, meaning if a holiday let isn’t occupied for at least 182 days of the year then they are subject to second home council tax rates, which are sky-high.
That will see lots of holiday let businesses going under. In many parts of Wales, they are the backbone of the tourism sector.
If you have a holiday let in a part of Wales that isn’t a traditional tourism hotspot, then reaching 182 days will be even more difficult – but that let still provides an important service and contributes to that financial success that tourism to Wales brings.
These policies coming from the Cardiff Labour Government will have a terrible impact on our tourism sector, which is still recovering from the coronavirus lockdowns which finished off many businesses.
They need appropriate support, not these anti-tourism measures which will slow down the Welsh economy.
Fy marn i - The Leader
Pryd bynnag yr af i allan o Gymru, rydw i bob amser yn eiriolwr enfawr dros ein gwlad - yn enwedig rhanbarth y Gogledd!
Mae ein hadnoddau awyr agored gyda'r gorau yn y byd ac rydym yn adnabyddus iawn am ein hamrywiaeth anhygoel o gestyll.
Mae llawer o bobl eisiau gweld y pethau hynny, a dylai sector twristiaeth ffyniannus mewn gwlad fach fel Cymru fod yn destun dathlu. Mae'n arwydd o hyder cenedlaethol ac yn dangos ein hapêl ym mhedwar ban byd.
Wedi'r cyfan, twristiaeth sy'n gyfrifol am oddeutu 5% o lefelau GPD Cymru ac yn cynnal tua 1 o bob 7 swydd yn y Gogledd.
Heb ddiwydiant twristiaeth iach, mae hynny'n glec i'n rhagolygon economaidd. Allwn ni ddim fforddio hynny.
Dyna pam rwy'n siomedig gyda pholisïau Llywodraeth Cymru ar dwristiaeth, gyda'r dreth dwristiaeth arfathedig a throthwy meddiannaeth newydd llym i fusnesau gosod llety gwyliau.
Yn gyntaf, y dreth dwristiaeth. Dydyn ni'n dal ddim yn gwybod faint yn union fydd y tâl, ond mewn maes hynod gystadleuol am ymwelwyr, bydd ychwanegu ychydig bunnoedd y noson am wyliau yn wrthun i nifer.
Mae hyn yn hollbwysig gan y bydd yn cael effaith aruthrol ar lawer bobl sydd ar 'wyliau adref' - pobl o rannau eraill o Gymru a gweddill y DU sy'n chwilio am wyliau yn yr ynysoedd hyn.
Mae angen i'n diwydiant twristiaeth fod mor gystadleuol â phosibl i ddenu pobl, nid gosod rhwystrau.
Wedi'r cyfan, os yw pobl yn penderfynu mynd ar wyliau i Blackpool yn lle'r Bala, mae hynny'n golygu llai o arian ym mhocedi pobl yr ardal. Llai o arian i'r tafarndai, bwytai a llai o swyddi hefyd.
Yn ail, y trothwy meddiannaeth llety gwyliau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod trothwy 182 diwrnod, sy'n golygu os nad yw llety gwyliau yn cael ei feddiannu am o leiaf 182 diwrnod o'r flwyddyn, yna maent yn destun cyfraddau treth cyngor ail gartrefi, sy'n uchel iawn.
Bydd llawer o fusnesau llety gwyliau yn mynd i'r wal yn sgil hyn. Mewn sawl rhan o Gymru, nhw yw asgwrn cefn y sector twristiaeth.
Os oes gennych chi lety gwyliau mewn rhan o Gymru nad yw'n fan twristiaidd traddodiadol, yna bydd cyrraedd trothwy 182 diwrnod yn anoddach fyth - er bod y llety gwyliau hwnnw'n dal i ddarparu gwasanaeth pwysig ac yn cyfrannu at y llwyddiant ariannol hwnnw a ddaw yn sgil twristiaeth i Gymru.
Bydd y polisïau hyn gan Lywodraeth Lafur Caerdydd yn cael effaith ofnadwy ar ein sector twristiaeth, sy'n dal i adfer ar ôl cyfyngiadau clo'r coronafeirws - yr hoelen olaf yn arch sawl busnes.
Mae angen cymorth addas arnynt, nid y mesurau gwrth-dwristiaeth hyn a fydd yn arafu economi Cymru.