AFC Wrexham’s success has put the sporting spotlight on North Wales.
Readers will be aware of the global attention that the club and town now bask in, with the march up the leagues and dynamic ownership attracting eyes from around the world.
It’s a great thing, and long may it continue.
The start to the season has been a promising one, although there is lots of football still left to play.
Sport in Wales has a special place in our society, and we all know that North Wales is a sport mad place.
I do feel that there is much more that can be done on and off the field, though.
That is why I was so disappointed to read that the Welsh Rugby Union had decided to move next year’s Six Nations under-20s matches from Colwyn Bay to Newport and Cardiff.
The under-20s fixtures in North Wales have attracted good crowds for many years now and were eagerly anticipated by many.
There has been a gradual shift away from North Wales, though, but to not have a single match in our part of the world is quite sad.
Taking those games away will damage the sport in our neck of the woods, particularly at a time we should be encouraging kids and families to engage with sport.
I really don’t understand it, because there is plenty of support up here and that support base was growing and growing.
I also think the Wales football team should look at playing more in North Wales, particularly when the Racecourse Ground redevelopment is finished.
That applies to age-grade and women’s football, too.
International teams in rugby and football are for the whole of Wales, not just a couple of cities down South.
That will not only help inspire the next generation of sports stars, but encourage everyone to keep active which is so important for people’s health.
To finish, I’ll also give cricket a mention – Glamorgan used to play matches at Colwyn Bay but haven’t for some years now.
I visited Chirk Cricket Club earlier this year, and there is clearly an appetite for professional cricket in North Wales, so let’s get some country cricket up here and engage North Walian fans!
As ever, if you need to get in touch then you can drop me a line at [email protected].
Fy marn i - The Leader
Mae llwyddiant CPD Wrecsam wedi hoelio sylw chwaraeon y byd ar y Gogledd.
Bydd darllenwyr yn ymwybodol o'r sylw byd-eang y mae'r clwb a'r dref yn ei gael bellach, wrth i’r clwb ddringo i fyny’r cynghreiriau ac wrth i’r berchnogaeth ddeinamig ddenu sylw ym mhedwar ban byd.
Mae'n wych o beth, a boed iddo barhau.
Mae'r tîm wedi dechrau’r tymor yn addawol, er bod llawer o bêl-droed yn dal ar ôl i'w chwarae.
Mae gan chwaraeon yng Nghymru le arbennig yn ein cymdeithas, ac rydyn ni i gyd yn gwybod bod y Gogledd yn gwirioni ar chwaraeon.
Er hynny, rwy'n teimlo bod llawer mwy y gellir ei wneud ar ac oddi ar y cae.
Dyna pam roeddwn i mor siomedig o ddarllen bod Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu symud gemau dan 20 oed y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf o Fae Colwyn i Gasnewydd a Chaerdydd.
Mae'r gemau dan 20 oed yn y Gogledd wedi denu torfeydd da ers blynyddoedd lawer bellach ac roedd llawer o bobl yn edrych ymlaen yn eiddgar atyn nhw.
Mae symud graddol wedi bod i ffwrdd o’r Gogledd, ond mae peidio â chael yr un gêm yn ein rhan ni o'r byd yn dorcalonnus.
Bydd mynd â’r gemau yma i ffwrdd o’r gogledd yn gryn ergyd i’r gamp yn yr ardal, yn enwedig ar adeg y dylen ni fod yn annog plant a theuluoedd i gymryd rhan yn y campau.
Dwi wir ddim yn deall y peth, gan fod digon o gefnogaeth i fyny yma ac mae’r sylfaen gefnogwyr honno'n tyfu ac yn tyfu.
Dwi’n credu hefyd y dylai tîm pêl-droed Cymru ystyried chwarae mwy o gemau yn y Gogledd, yn enwedig pan fydd y Cae Ras wedi'i ailddatblygu
Mae hynny'n berthnasol i wahanol oedrannau a phêl-droed menywod hefyd.
Mae’r timau rygbi a phêl-droed rhyngwladol yn cynrychioli Cymru gyfan, nid dim ond llond llaw o ddinasoedd i lawr yn y De.
Bydd hynny nid yn unig yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o sêr chwaraeon, ond yn annog pawb i gadw'n heini sydd mor bwysig i iechyd pobl.
I gloi, dwi hefyd am roi sylw i griced - roedd Morgannwg yn arfer chwarae gemau ym Mae Colwyn ond dyw hynny ddim wedi digwydd ers rhai blynyddoedd bellach.
Mi wnes i ymweld â Chlwb Criced y Waun yn gynharach eleni, ac mae'n amlwg bod awch am griced proffesiynol yn y Gogledd, felly gadewch i ni gael ychydig o griced sirol i fyny yma ac ennyn diddordeb y Gogs!
Cofiwch, fel arfer, os oes angen i chi gysylltu, gallwch anfon gair ataf [email protected].