North Wales received a huge boost last week courtesy of the United Kingdom Government. Prime Minister Rishi Sunak announced funding of £1 billion to electrify the North Wales Main Line.
This will mean that train journeys are faster, cleaner and greener across North Wales, and links with the North-West of England will be significantly improved, bringing many parts of North Wales within an hour of Manchester.
This will make a huge difference to people across our area, and will improve the economy and everyday life. It will also make it easier for tourists to visit and spend money in the region, supporting our communities. This is a win and a transformational level of investment, no matter how you look at it.
Businesses and transport campaigners have been calling for electrification, and now it is happening. I spoke at a panel event at the Conservative Conference just a couple of days before the announcement where politicians and businesses alike were united on the need for investment like this into North Wales transport. One senior business leader has called it a “once-in-a-generation investment”. That is how big this is.
The money has come from savings made by reducing the HS2 line. It clearly shows the faith that the Conservative Party has in North Wales, and builds on a record of delivery. Now, let’s contrast this to what the Labour-run Cardiff Government is doing for North Wales.
They have frozen roadbuilding and imposed a disastrous and unpopular default 20mph speed limit, which will make life much more difficult for motorists.
The Labour-run train service, Transport for Wales, has the worst customer satisfaction rate of any operator across the UK. Throw into that the years of chronic underinvestment in our area from Cardiff Labour, and it doesn’t paint a pretty picture.
If you have any queries or issues, please don’t hesitate to get in touch. You can contact me by emailing [email protected] or calling on 0300 200 7267.
Fy marn i - The Leader
Cafodd Gogledd Cymru hwb enfawr yr wythnos diwethaf trwy garedigrwydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Cyhoeddodd y Prif Weinidog Rishi Sunak gyllid o £1 biliwn i drydaneiddio Prif Linell Rheilffordd Gogledd Cymru.
Bydd hyn yn golygu bod teithiau trên yn gyflymach, yn lanach ac yn wyrddach ar draws y Gogledd, a bydd cysylltiadau â Gogledd-orllewin Lloegr yn cael eu gwella'n sylweddol, gan ddod â sawl rhan o Ogledd Cymru o fewn awr i Fanceinion.
Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ledled ein hardal, a bydd yn gwella'r economi a bywyd bob dydd. Bydd hefyd yn ei gwneud hi’n haws i dwristiaid ymweld a gwario arian yn y rhanbarth, gan gefnogi ein cymunedau. Mae hon yn fuddugoliaeth ac yn lefel drawsnewidiol o fuddsoddiad, sut bynnag y byddwch chi’n edrych arno.
Mae busnesau ac ymgyrchwyr trafnidiaeth wedi bod yn galw am drydaneiddio, a nawr mae'n digwydd. Siaradais mewn digwyddiad panel yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr ychydig ddyddiau cyn y cyhoeddiad lle’r oedd gwleidyddion a busnesau fel ei gilydd yn unedig ynghylch yr angen am fuddsoddiad fel hyn i drafnidiaeth Gogledd Cymru. Mae un uwch arweinydd busnes wedi ei alw'n "fuddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth". Dyna pa mor fawr yw hyn.
Mae'r arian wedi dod o arbedion a wnaed drwy leihau llinell HS2. Mae'n dangos yn glir y ffydd sydd gan y Ceidwadwyr yng Ngogledd Cymru, ac yn adeiladu ar record o gyflawni. Nawr, gadewch i ni gymharu hyn â beth y mae Llywodraeth Lafur Caerdydd yn ei wneud dros Ogledd Cymru.
Maen nhw wedi rhewi’r cyllid ar gyfer adeiladu ffyrdd ac wedi gosod terfyn cyflymder 20mya cyffredinol trychinebus ac amhoblogaidd, a fydd yn gwneud bywyd yn llawer anoddach i fodurwyr.
Y gwasanaeth trenau sy'n cael ei redeg gan Lafur, Trafnidiaeth Cymru, sydd â'r gyfradd boddhad cwsmeriaid waethaf gan unrhyw weithredwr ledled y DU. Meddyliwch am hyn ochr yn ochr â blynyddoedd o danfuddsoddi cronig yn ein hardal gan Lafur Caerdydd, ac nid yw'n creu darlun da.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu. Gallwch gysylltu â mi drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 200 7267.