North Wales MS Sam Rowlands has been asked what would matter most to him at end of life, as he met Marie Curie staff at the Senedd, who spoke about the importance of good palliative and end of life care, and access to it for all.
Sam joined forces with the Marie Curie Cymru Policy team, Lowri Griffiths and Bethan Edwards at a stand at the Senedd in Cardiff Bay on Wednesday 3rd November, to highlight the leading end of life charity’s work.
Marie Curie Cymru provides care and support to people living with a terminal illness and their loved ones in their hospice and people’s homes. The charity also offers a free Information and Support line, which includes bereavement support. It is the largest charitable funder of palliative and end of life care research in the UK also campaigns for better end of life care for all.
As well lending his support, Sam is also encouraging people across North Wales to start preparing for the National Day of Reflection 2022 by planting spring bulbs and seeds this autumn. The flowers will bloom in time for the day on 23 March 2022 in a sign of hope for a brighter future.
The National Day of Reflection is a day to support the millions of people who’ve been bereaved during the pandemic, and to reflect on the lives of family, friends, neighbours and colleagues who have died from Covid or other causes. The day is a time to pause, reflect and support each other whether of any belief or none.
Sam said:
Talking about our end of life care wishes with our loved ones is so important to ensure they know how to best support us at our most vulnerable time, and I would encourage everyone to have that conversation as soon as they can. I also hope people across North Wales, no matter the size of their out-door space, and even inside, will plant a Spring Bulb for the National Day of Reflection and support Marie Curie.
It’s been a difficult time, with many devastated by the death of a loved one and planting these bulbs and seeing the first shoots awaken can restore our hope for better times to come.
For further information and to pledge to take part in the National Day of Reflection 2022 visit mariecurie.org.uk/dayofreflection
Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru yn annog sgyrsiau diwedd oes gydag anwyliaid ac yn galw ar y gymuned i blannu bylbiau'r gwanwyn ar gyfer Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol
Gofynnwyd i Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru beth fyddai bwysicaf iddo ar ddiwedd ei oes, wrth iddo gwrdd â staff Marie Curie yn y Senedd, a fu'n siarad am bwysigrwydd gofal lliniarol a gofal diwedd oes da, a mynediad iddo i bawb.
Ymunodd Sam â Lowri Griffiths a Bethan Edwards, tîm Polisi Marie Curie Cymru, ar stondin yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher 3 Tachwedd, i dynnu sylw at waith yr elusen diwedd oes.
Mae Marie Curie Cymru yn darparu gofal a chymorth i bobl sy'n byw gyda salwch terfynol a'u hanwyliaid yn eu hosbis ac ar yr aelwyd. Mae'r elusen yn cynnig llinell wybodaeth a chymorth am ddim hefyd, sy'n cynnwys cymorth profedigaeth. Dyma'r cyllidwr elusennol mwyaf o ymchwil gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y DU, sy’n ymgyrchu hefyd dros ofal diwedd oes gwell i bawb.
Yn ogystal â dangos ei gefnogaeth, mae Sam yn annog pobl ledled y Gogledd i ddechrau paratoi ar gyfer Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol 2022 hefyd drwy blannu bylbiau a hadau'r gwanwyn yr hydref hwn. Bydd y blodau'n blodeuo mewn da bryd ar gyfer y diwrnod ar 23 Mawrth 2022 fel arwydd o obaith am ddyfodol mwy disglair.
Mae'r Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol yn gyfle i gefnogi'r miliynau o bobl sydd wedi cael profedigaeth yn ystod y pandemig, ac i fyfyrio ar fywydau teulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr sydd wedi marw o Covid neu achosion eraill. Mae'n gyfle i oedi, myfyrio a chefnogi ein gilydd, boed ganddynt unrhyw gred neu beidio.
Meddai Sam:
Mae trafod ein dymuniadau gofal diwedd oes gyda'n hanwyliaid mor bwysig i sicrhau eu bod yn gwybod sut i'n cefnogi orau pan rydym fwyaf bregus, a byddwn yn annog pawb i gael y sgwrs honno cyn gynted â phosib. Hefyd, rwy'n gobeithio y bydd pobl ar draws y Gogledd, waeth faint o le sydd ganddyn nhw y tu allan, neu hyd yn oed dan do, yn plannu bwlb y gwanwyn ar gyfer y Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol ac yn cefnogi Marie Curie.
Bu'n gyfnod nodd, gyda llawer wedi'u taro’n ofnadwy gan farwolaeth anwyliaid, a gallai pannu'r bylbiau hyn a gweld y blodeuyn cyntaf yn agor adfer ein gobaith am ddyddiau gwell i ddod.
I gael rhagor o wybodaeth a gwneud addewid i gymryd rhan yn Niwrnod Myfyrio Cenedlaethol 2022 ewch i mariecurie.org.uk/dayofreflection