Sam Rowlands, MS for North Wales, has expressed his delight at his Region being named as the most popular holiday destination.
In a recent survey by Sykes Cottages, North Wales was chosen as the number one place people wanted to spend their holidays this year, ahead of both Cornwall and Devon.
Mr Rowlands, who was recently appointed chair of a Cross Party Group on Tourism said:
This is great news for the area and I am delighted to see my Region come out on top in a UK wide survey.
Tourism in North Wales employs around 40,000 people and contributes around £3.5 billion a year to the local economy and has been hit hard by the Covid pandemic.
It was only this time last year when there were real challenges with almost all businesses from the the tourism and hospitality sector having to close for a prolonged period of time and around 80% of staff being furloughed.
With a lot of people enjoying staycations this year it is good to see North Wales is such a popular destination.
In the annual Sykes Staycation Index, which reveals the nation’s favourite holiday hotspots. North Wales was named the most popular region for bookings for the summer of 2021, with Anglesey and Llandudno ranked the first and second most popular holiday destinations in Wales respectively.
Gogledd Cymru – hoff gyrchfan wyliau’r DU
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi disgrifio ei falchder wrth i’w Ranbarth gael ei enwi fel y gyrchfan wyliau fwyaf poblogaidd.
Mewn arolwg diweddar gan Sykes Cottages, Gogledd Cymru oedd y lle yr oedd y rhan fwyaf o bobl am dreulio eu gwyliau eleni, gan guro Cernyw a Dyfnaint.
Meddai Mr Rowlands, a benodwyd yn ddiweddar yn gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth:
Dyma newyddion gwych i’r ardal a braf iawn yw gweld fy Rhanbarth yn dod i’r brig mewn arolwg DU gyfan.
Mae twristiaeth yn y Gogledd yn cyflogi tua 40,000 o bobl ac yn cyfrannu tua £3.5 biliwn y flwyddyn i’r economi leol ac mae’r pandemig Covid wedi effeithio’n fawr ar yr ardal.
Dim ond cwta flwyddyn yn ôl oedd hi ac roedden ni’n wynebu heriau mawr gyda phob busnes bron iawn o’r sector twristiaeth a lletygarwch yn gorfod cau eu drysau am gyfnod maith, a thua 80% o staff yn cael eu rhoi ar ffyrlo.
Gyda llawer o bobl yn mwynhau aros yn lleol am eu gwyliau eleni, braf yw gweld y Gogledd yn gyrchfan mor boblogaidd.
Ym Mynegai Gwyliau Gartref blynyddol Sykes, sy’n datgelu hoff gyrchfannau gwyliau’r genedl, enwyd y Gogledd fel y rhanbarth mwyaf poblogaidd ar gyfer archebion ar gyfer haf 2021, gydag Ynys Môn a Llandudno yn gyntaf ac ail ar y rhestr cyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd yng Nghymru.