![Sam Rowlands](/sites/www.samrowlands.org.uk/files/styles/gallery_large/public/news-gallery/tracks_3.jpeg?itok=TIyd8KHS)
Calls for an increased train service between Wrexham and London Euston have been given a boost this month.
The Department of Transport has confirmed that it remains ‘supportive in principle’ of an application by Wrexham, Shropshire & Midlands Railway (WSMR) to introduce a new service between Wrexham and the UK capital.
The service would be ‘open access’, which means it would operate on a commercial basis without government subsidy, and would include stops at Gobowen, Shrewsbury, Telford, Wolverhampton, Darlaston, Walsall, Coleshill Parkway, Nuneaton and Milton Keynes.
In its latest assessment of the proposals, the Department of Transport says it recognises the benefits the new service could provide to communities in North Wales, the West Midlands and London.

Although it also suggests more work needs to be done to weigh-up the operational challenges, including how the new service would work alongside existing train services into Euston.
Councillor David A Bithell, Deputy Leader of Wrexham Council and Lead Member with responsibility for strategic transport, said:
There’s still a long way to go, but things are definitely moving in the right direction.
Both Sam Rowlands MS and I met with WSMR recently, and we’re very pleased with how the application is progressing.
The introduction of a commercial service – running up to five trains a day from Wrexham to London – would bring huge benefits to North Wales.
Sam Rowlands MS (North Wales Region) said:
I’m delighted to be backing Wrexham, Shropshire & Midlands Railway’s application to introduce direct rail services between Wrexham and London, and it’s great to see that the Department for Transport are supportive of the application in principle.
Wrexham is North Wales’ largest conurbation, and improving rail services into Shropshire, the Midlands and London can only help to boost our local economy.
Cynlluniau’n datblygu’n dda ar gyfer gwasanaeth trên newydd rhwng Wrecsam a Llundain
Mae galwadau am wasanaeth trên gwell rhwng Wrecsam a Llundain Euston wedi cael hwb y mis hwn.
Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cadarnhau ei bod yn parhau i ‘gefnogi mewn egwyddor’ gais gan Wrexham, Shropshire & Midlands Railway (WSMR) i gyflwyno gwasanaeth newydd rhwng Wrecsam a phrifddinas y DU.
Byddai’r gwasanaeth yn un ‘mynediad agored’, sy’n golygu y byddai’n gweithredu ar sail fasnachol heb gymhorthdal llywodraeth, a byddai’n cynnwys arosfannau yng Ngobowen, Amwythig, Telford, Wolverhampton, Darlaston, Walsall, Parcffordd Coleshill, Nuneaton a Milton Keynes.
Yn ei hasesiad diweddaraf o’r cynigion, dywed yr Adran Drafnidiaeth ei bod yn cydnabod y manteision y gallai’r gwasanaeth newydd eu darparu i gymunedau yng ngogledd Cymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Llundain.

Er, mae hefyd yn awgrymu bod angen gwneud mwy o waith i bwyso’r heriau gweithredol, gan gynnwys sut y byddai’r gwasanaeth newydd yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau trên presennol i Euston.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam a’r Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am drafnidiaeth strategol:
Mae ’na ffordd bell i fynd o hyd, ond mae pethau’n bendant yn symud i’r cyfeiriad cywir.
Gwnaeth Sam Rowlands AS a minnau gyfarfod â WSMR yn ddiweddar, ac rydyn ni’n falch iawn o sut mae’r cais yn datblygu.
Byddai cyflwyno gwasanaeth masnachol – yn rhedeg hyd at bum trên y dydd o Wrecsam i Lundain – yn dod â manteision enfawr i ogledd Cymru.
Dywedodd Sam Rowlands AS (Rhanbarth Gogledd Cymru):
Rwy’n falch iawn o gefnogi cais Wrexham, Shropshire & Midlands Railway i gyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng Wrecsam a Llundain, ac mae’n wych gweld bod yr Adran Drafnidiaeth yn cefnogi’r cais mewn egwyddor.
Wrecsam yw cytref fwyaf gogledd Cymru, a byddai gwella gwasanaethau rheilffordd i Swydd Amwythig, Canolbarth Lloegr a Llundain yn hwb i’n heconomi leol.