Sam Rowlands MS for North Wales, has congratulated Plastecowood, in Bodelwyddan, for winning a prestigious award.
Sam, along with fellow MS Gareth Davies, who represents the Vale of Clwyd, recently visited the site and praised the work of the family run company.
He said:
I welcomed the opportunity to be shown around the site and meet the people who have put this small business on the international map.
I was delighted to hear Plastecowood has been awarded the Santander X Environmental Challenge Award, an international award which rewards sustainable businesses. This is a huge accolade for a SME based in North Wales and congratulations must go to everyone who has contributed to its success.
As a keen recycler myself, I was very impressed with what they are producing from mixed plastic waste. An example of their work can be seen locally as they supplied steps from Penrhyn Beach in Llandudno, down to the seashore. These steps would rapidly deteriorate if they were wooden, however, Plastecowood’s products will last much longer.
It is an excellent product and can be made into a range of items traditionally made from wood such as board walks, pallets and picnic benches. This all keeps plastic out of landfill and reduces our reliance on timber.
Wales is one of the top countries in the world for recycling and it is great to see a North Wales business leading the field by turning waste into durable and environmentally friendly plastic products.
Gareth Davies said:
It was great to meet the team in Bodelwyddan, to learn more about the site and what they do locally. I was very impressed with the range of products available and what can be achieved using such a durable material that could prove to be a solution to wood products in the long term future, as they last a lifetime and are easy to maintain.
With the worldwide environmental impact of single use plastics well known, this is a step in the right direction to ensuring the best use of the material and it’s good to see a local company in the Vale of Clwyd taking a lead on this and setting the ‘benchmark’ for utilising plastic to the best of its ability.
Plastecowood is based on the Expressway Business Park, in Bodelwyddan and employs over 30 people. They supply a range of different sectors, including breweries, schools, local authorities and the rail industry.
Gwobr i Plastecowood ym Modelwyddan
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, wedi llongyfarch Plastecowood, ym Modelwyddan, am ennill gwobr fawreddog.
Yn ddiweddar, bu Sam ynghyd â’i gyd AS Gareth Davies, sy’n cynrychioli Dyffryn Clwyd, yn ymweld â’r safle a chanmolodd waith y cwmni teuluol.
Meddai:
Roeddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i fynd ar daith o gwmpas y safle a chyfarfod y bobl sydd wedi rhoi’r busnes bach hwn ar y map rhyngwladol.
Roedd hi’n braf iawn clywed bod Plastecowood wedi ennill Gwobr Her Amgylcheddol X Santander, sef gwobr ar gyfer busnesau cynaliadwy. Mae’n dipyn o gamp i BBaCh yn y Gogledd a llongyfarchiadau lu i bawb sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant.
Fel ailgylchwr brwd fy hun, roeddwn i’n edmygu’r hyn maen nhw’n ei gynhyrchu o wastraff plastig cymysg. Gellir gweld enghraifft o’u gwaith yn lleol ar ôl iddyn nhw gyflenwi grisiau o Draeth Penrhyn yn Llandudno, i lawr at lan y môr. Byddai’r grisiau hyn yn dirywio’n gyflym pe baen nhw’n rhai pren, ond bydd cynhyrchion Plastecowood yn para llawer hirach.
Mae’n gynnyrch rhagorol a gellir ei ddefnyddio i wneud eitemau amrywiol sydd wedi’u gwneud yn draddodiadol o bren, fel slabiau pren ar gyfer llwybrau, paledi a meinciau picnic. Mae hyn yn cadw plastig i ffwrdd o safleoedd tirlenwi ac yn lleihau ein dibyniaeth ar bren.
Mae Cymru yn un o’r prif wledydd yn y byd ym maes ailgylchu a braf gweld busnes o’r Gogledd yn torri tir newydd drwy droi gwastraff yn gynhyrchion plastig gwydn ac amgylcheddol gyfeillgar.
Meddai Gareth Davies:
Roed hi’n bleser cyfarfod y tîm ym Modelwyddan, i gael dysgu mwy am y safle a’r hyn maen nhw’n ei wneud yn lleol. Da oedd gweld y cynhyrchion amrywiol sydd ar gael a’r hyn y gellir ei gyflawni drwy ddefnyddio deunydd mor wydn a allai gymryd lle cynhyrchion pren yn yr hirdymor, gan eu bod yn para oes ac yn hawdd i’w cynnal.
Gydag effaith amgylcheddol plastigion untro bedwar ban byd, mae hyn yn gam i’r cyfeiriad iawn wrth i ni geisio sicrhau’r defnydd gorau o’r deunydd a da yw gweld cwmni lleol yn Nyffryn Clwyd yn arwain y ffordd ac yn gosod y ‘meincnod’ ar gyfer gwneud y defnydd gorau o blastig.
Mae Plastecowood wedi’i leoli ym Mharc Busnes Expressway, ym Modelwyddan ac yn cyflogi mwy na 30 o bobl. Maen nhw’n cyflenwi gwahanol sectorau, gan gynnwys bragdai, ysgolion, awdurdodau lleol a’r diwydiant rheilffyrdd.