A fund aimed at supporting disabled candidates in next year’s local government elections has been welcomed by the Welsh Conservatives.
The Access to Elected Office Fund for Wales will pay for practical support for people to overcome barriers in the upcoming elections.
Shadow Minister for Local Government in the Welsh Parliament, Sam Rowlands MS, said:
Democracy works best when we have candidates and elected officials from all different backgrounds.
I would like to encourage anyone interested in standing for election to find out how this incredibly important fund could support them by visiting the Disability Wales website or getting in contact with them.
Shadow Minister for the Constitution, Darren Millar MS, added:
This fund was on offer to people standing in this year’s Senedd elections, and I am delighted to see that it will be open again for candidates in the Welsh local government elections next year.
I hope the fund – which can be used towards travel, personal assistance, training and assistive aids – will encourage more people from all walks to life to throw their hat into the ring.
Information on how to access the fund can be found online here.
Annog darpar ymgeiswyr etholiadol i ganfod sut gallai cronfa bwysig eu helpu
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu cronfa sydd â’r nod o gefnogi ymgeiswyr anabl yn etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf.
Bydd Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn talu am gymorth ymarferol i bobl oresgyn rhwystrau yn yr etholiadau nesaf.
Meddai Sam Rowlands AS, y Gweinidog Cysgodol dros Lywodraeth Leol yn y Senedd:
Mae democratiaeth yn gweithio orau pan mae gennym ni ymgeiswyr a swyddogion etholedig o wahanol gefndiroedd.
Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn sefyll etholiad i ganfod sut gallai’r gronfa bwysig iawn hon eu cefnogi drwy fynd i wefan Anabledd Cymru neu gysylltu â nhw.
Ychwanegodd Darren Millar AS, y Gweinidog Cysgodol dros y Cyfansoddiad:
Roedd y gronfa hon yn ar gael i bobl a oedd yn sefyll etholiadau’r Senedd eleni, ac rwy’n falch iawn gweld y bydd ar gael eto i ymgeiswyr yn etholiadau llywodraeth leol Cymru y flwyddyn nesaf.
Rwy’n gobeithio y bydd y gronfa – y gellir ei defnyddio tuag at deithio, cymorth personol, hyfforddiant neu gymhorthion – yn annog mwy o bobl o bob cefndir i roi cynnig arni.
Mae gwybodaeth am sut i gael mynediad at y gronfa ar gael ar-lein yma.