Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales is urging people to get together for this year’s Wrexham Walk for Dementia.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, is calling on his constituents to take part in the charity walk organised by Dementia Friendly Wrexham at the National Trust, Erddig on Sunday September 8.
He said:
As a keen supporter of anything which ultimately helps and supports people suffering from dementia and their families, I am happy to highlight this event and encourage everyone to turn up and show their support.
Dementia is a terrible debilitating illness and it is good to see Dementia Friendly Wrexham working in partnership with the local council and others to help raise funds for the charity.
As an MS for North Wales I am always happy to support and help to highlight this illness and continue to raise awareness with Welsh Parliament.
This year’s Wrexham Walk for Dementia takes place at National Trust Erddig on Sunday, September 8 and the team from Dementia Friendly Wrexham will greet you from 10.30am and also be on hand to offer information about dementia-friendly services and activities in Wrexham.
Dementia Friendly Wrexham is a small community group with the aim of creating a safe environment for those who are living with or affected by dementia in the local area.
Working in partnership with the local authority and other organisations, they want to raise further awareness of dementia, challenging the stigma that surrounds the disease and making sure that those who are affected by dementia are treated with dignity, respect and made to feel part of the community in which they live.
Sam Rowlands yn galw ar etholwyr i gefnogi taith gerdded elusennol y penwythnos nesaf
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd yn annog pobl i ddod at ei gilydd i gefnogi Cerdded ar gyfer Dementia Wrecsam eleni.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, yn galw ar ei etholwyr i gymryd rhan yn y daith gerdded elusennol sydd wedi ei threfnu gan griw Wrecsam yn Gyfeillgar i Ddementia yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Erddig, dydd Sul, Medi 8.
Meddai:
Fel cefnogwr brwd o unrhyw beth sydd yn y pen draw yn helpu ac yn cefnogi pobl sy'n dioddef o ddementia a'u teuluoedd, rwy'n hapus i dynnu sylw at y digwyddiad hwn ac yn annog pawb i ddod a dangos eu cefnogaeth.
Mae dementia yn salwch gwanychol ofnadwy ac mae'n dda gweld Wrecsam yn Gyfeillgar i Ddementia yn gweithio mewn partneriaeth â'r cyngor lleol ac eraill i helpu i godi arian i'r elusen.
Fel AS dros y Gogledd, rwyf bob amser yn hapus i gefnogi a helpu i dynnu sylw at y salwch hwn a dal ati i godi ymwybyddiaeth gyda’r Senedd.
Cynhelir Cerdded ar gyfer Dementia Wrecsam eleni yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Erddig ddydd Sul, 8 Medi a bydd tîm Wrecsam yn Gyfeillgar i Ddementia yno i’ch cyfarch o 10.30 y bore, ac wrth law hefyd i gynnig gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau dementia-gyfeillgar yn Wrecsam.
Grŵp cymunedol bach yw Wrecsam yn Gyfeillgar i Ddementia, a’u nod yw creu amgylchedd diogel i'r rhai sy'n byw gyda dementia neu sydd yn cael eu heffeithio gan ddementia yn yr ardal leol.
Gan weithio mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a sefydliadau eraill, maen nhw am godi mwy o ymwybyddiaeth o ddementia, herio'r stigma sy'n gysylltiedig â’r clefyd a sicrhau bod y rhai y mae dementia yn effeithio arnyn nhw’n cael eu trin ag urddas a pharch ac yn cael eu gwneud i deimlo'n rhan o'r gymuned y maen nhw’n byw ynddi.