Sam Rowlands MS for North Wales and Darren Millar MS for Clwyd West have congratulated a young footballer for being selected for the full Welsh Under 14 squad.
Sam said:
I am absolutely delighted to hear that Elliott Bullock, from Ysgol Eirias in Colwyn Bay, has been successful at the recent trials.
Elliott was one of three boys, who play in the Under 14 squad in the recently formed Conwy Schools Football Programme, who tried out for the national team.
None of this would have been possible without the programme and it is great to see aspiring young footballers being given the chance to perform on the national stage.
It is something I have wanted to see in the county for a good while and fully supported a local group of football coaches who campaigned for the move. It was long overdue and already it is showing its merit.
Elliott is one of only 16 players across the whole of Wales who has been selected for the squad. What a fantastic opportunity to represent his country and I wish him every success for the future.
Darren said:
Well done to Elliott. In less than 12 months we have seen the success of the programme and I am sure we will be seeing more young footballers following in his footsteps.
Volunteer coaches worked with Conwy County Borough’s Leisure Department to originally get the project off the ground and there is no doubt it has been a resounding success.
Elliott fought off competition from the best players across Wales which included those at professional clubs of both England and Wales, such as, Cardiff City, Swansea City, Crewe Alexandra, Everton, Manchester United, and Wrexham to name a few.
He will now be training in preparation for a fixture vs the English School Boys U14’s representation squad, thus earning himself a Welsh Cap.
The Conwy Schools Football Programme was formed in November last year with players being drawn from schools all over the borough to play against other counties.
Coach, Harrison York, chairman of Conwy SFA said:
Elliott has been an outstanding performer within the U14’s squad this season. He has shown fantastic commitment and dedication to the programme, and we believe this is just rewards for his personal dedication which comes alongside his 100% attendance record.
We will continue to work hard to ensure that there are many more individuals in the future of Conwy SFA who step up to get opportunities on these higher platforms.
Sam Rowlands AS a Darren Millar AS yn falch iawn o lwyddiant Rhaglen Bêl-droed Ysgolion Conwy
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru a Darren Millar AS Gorllewin Clwyd wedi llongyfarch pêl-droediwr ifanc am gael ei ddewis ar gyfer carfan lawn dan 14 Cymru.
Dywedodd Sam:
Rwy'n falch iawn o glywed bod Elliott Bullock, o Ysgol Eirias Bae Colwyn, wedi llwyddo yn y treialon diweddar.
Roedd Elliott yn un o dri bachgen, sy'n chwarae yng ngharfan dan 14 Rhaglen Bêl-droed Ysgolion Conwy a ffurfiwyd yn ddiweddar, wnaeth geisio am le yn y tîm cenedlaethol.
Ni fyddai hyn yn bosibl heb y rhaglen ac mae'n wych gweld darpar bêl-droedwyr ifanc yn cael y cyfle i berfformio ar y llwyfan cenedlaethol.
Mae'n rhywbeth rwyf wedi bod eisiau ei weld yn y sir ers tro byd, a rhoddais gefnogaeth lawn i griw o hyfforddwyr pêl-droed lleol fu'n ymgyrchu dros hyn. Roedd hi'n hen bryd iddo ddigwydd, ac mae eisoes wedi talu ar ei ganfed.
Mae Elliott yn un o 16 o chwaraewyr o bob cwr o Gymru sydd wedi'u dewis ar gyfer y garfan. Am gyfle gwych i gynrychioli ei wlad. Pob llwyddiant iddo at y dyfodol.
Dywedodd Darren:
Da iawn Elliott. Mae'r rhaglen wedi llwyddo mewn llai na 12 mis, ac rwy'n siŵr y gwelwn fwy o bêl-droedwyr ifanc yn dilyn ei ôl traed.
Gweithiodd hyfforddwyr gwirfoddol gydag Adran Hamdden Bwrdeistref Sirol Conwy i gychwyn y prosiect yn wreiddiol, a does dim amheuaeth ei fod yn llwyddiant ysgubol.
Llwyddodd Elliott i sicrhau ei le yn erbyn rhai o’r chwaraewyr gorau ledled Cymru gan gynnwys aelodau o glybiau proffesiynol yng Nghymru a Lloegr, megis Caerdydd, Abertawe, Crewe Alexandra, Everton, Manchester United, a Wrecsam i enwi dim ond rhai.
Nawr, bydd yn hyfforddi i baratoi ar gyfer gêm yn erbyn carfan Bechgyn Ysgolion Lloegr dan 14, gan ennill Cap Cymru iddo'i hun.
Ffurfiwyd Rhaglen Bêl-droed Ysgolion Conwy ym mis Tachwedd y llynedd gyda chwaraewyr yn cael eu dewis o ysgolion ledled y fwrdeistref i chwarae yn erbyn siroedd eraill.
Meddai'r hyfforddwr Harrison York, cadeirydd SFA Conwy:
Mae Elliott wedi bod yn berfformiwr eithriadol fel rhan o’r garfan dan 14 oed y tymor hwn. Mae wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad gwych i'r rhaglen, ac mae'n cael ei wobrwyo am ei ymroddiad personol law yn llaw â'i record presenoldeb o 100%.
Byddwn yn parhau i weithio'n galed i sicrhau bod llawer mwy o unigolion o garfan ysgolion Sir Conwy y dyfodol yn camu ymlaen i serennu ar lwyfannau uwch.