North Wales MS Sam Rowlands and Aberconwy MS Janet Finch-Saunders have welcomed a new development to encourage more recycling.
Mr. Rowlands, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government was commenting during a visit to Conwy Council’s Gofer waste bulking centre near Abergele.
He said:
I was very pleased to visit the site and see at first-hand how this innovative system, developed by Deeside based Polytag, has the potential to help us all to recycle more, and be rewarded for it!
I had the pleasure of visiting the company earlier this year when they were working on a deposit return scheme project, to help us to recycle more which is something the Welsh Government wants to introduce. A successful trial was run in Colwyn Heights by Conwy County Borough Council last year.
As the former Leader of Conwy County Borough Council I was involved in preparing the groundwork for the trial which was successfully piloted in 2021.
This week I was able to see for myself how this new development will be able to scan unique barcodes on most items and allow businesses to track their own waste. This will also make it easier for residents to be rewarded for their recycling.
Mrs Finch-Saunders, Welsh Conservative Shadow Minister for Climate Change said:
I have been proud to have brought forward a legislative proposal in the Welsh Parliament for a bill that would make provisions to introduce a Deposit Return Scheme and reduce waste. Crucially, this gained cross-party support after twelve years of delay.
Polytag’s trial in Conwy County was a great success. They had a 97% engagement rate!
There has been increased interest in whether glass bottles should be included in a DRS. I am pleased to agree with Polytag that glass should be part of the scheme in Wales.
Recycling glass bottles lowers the risk of injury to people and wildlife as well as reducing our environmental impact. In fact, by including glass in Scotland’s Deposit Return Scheme there will be a reduction in CO2eq emissions of more than 50,000 tonnes each year – or nearly 1.3 million tonnes over 25 years!
Scotland’s Deposit Return Scheme will help tackle the plague of glass bottles littering communities because its inclusion of glass will see the recycling of an additional 53,000 tonnes of containers. It would be fantastic to see such a boost to recycling here in Wales too.
Polytag is based at the Advanced Manufacturing Research Centre on the Deeside Industrial Estate and in mid-2021 they worked with Conwy County Borough Council to trial a Digital Deposit Return Scheme in Colwyn Heights.
The digital solution will see packaging printed with an identifier which can be scanned by a home-owner using an app on their smart phones before it goes into their recycling bin.
They can then claim their deposit back without having to take their used bottles, etc. to a physical location like a supermarket, to claim it back. The packaging is then recovered by councils through their kerbside waste collection and then recycled.
The company’s latest development is a prototype scanner which could be attached to recycling equipment in local authority recycling plants to pick up information from the unique barcodes printed on most items.
The Scottish Government are planning to introduce a deposit return scheme in Scotland and the Welsh Government plan to introduce this by 2024. The Co-op have already agreed to be part of future trials and allow all of their own brand bottle water to be specially barcoded so they can participate in this equipment’s testing later this year.
Sam Rowlands AS a Janet Finch-Saunders AS yn gweld Cynllun Dychwelyd Ernes y dyfodol ar waith
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru ac Aelod o’r Senedd Aberconwy, Janet Finch-Saunders, wedi croesawu datblygiad newydd i annog mwy o ailgylchu.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, y Ceidwadwyr Cymreig, yn ymateb yn ystod ymweliad â chanolfan grynhoi gwastraff Cyngor Conwy yn Gofer, ger Abergele.
Dywedodd:
Roeddwn i’n falch iawn o ymweld â’r safle a gweld gyda’m llygaid fy hun sut mae’r system arloesol hon, a ddatblygwyd gan Polytag o Lannau Dyfrdwy, yn meddu ar y potensial i’n helpu ni gyd i ailgylchu mwy, a chael ein gwobrwyo am wneud hynny!
Cefais y pleser o ymweld â’r cwmni yn gynharach eleni pan oedden nhw’n gweithio ar brosiect cynllun dychwelyd ernes er mwyn ein helpu i ailgylchu mwy, rhywbeth mae Llywodraeth Cymru am ei gyflwyno. Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gynllun peilot llwyddiannus yn Ucheldir Colwyn y llynedd.
Fel cyn-arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, roeddwn yn rhan o’r gwaith o baratoi’r ffordd ar gyfer y cynllun peilot, a gynhaliwyd yn llwyddiannus yn 2021.
Yr wythnos hon, roedd modd i mi weld drosof fy hun sut y bydd y datblygiad newydd hwn yn gallu sganio codau bar unigryw ar y rhan fwyaf o eitemau ac yn caniatáu i fusnesau dracio eu gwastraff eu hunain. Bydd hyn hefyd yn ei gwneud hi’n haws i drigolion gael eu gwobrwyo am eu hailgylchu.
Dywedodd Mrs Finch-Saunders, Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, y Ceidwadwyr Cymreig:
Rwy’n falch o fod wedi cyflwyno cynnig deddfwriaethol yn Senedd Cymru ar gyfer bil a fyddai’n gwneud darpariaethau i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes a lleihau gwastraff. Yn hollbwysig, cafodd hyn gefnogaeth drawsbleidiol ar ôl 12 mlynedd o oedi.
Roedd treial Polytag yn Sir Conwy yn llwyddiant mawr, gyda chyfradd ymgysylltu o 97%!
Gwelwyd cynnydd yn y diddordeb o ran cynnwys poteli gwydr mewn cynllun o’r fath. Rwy’n falch o gytuno â Polytag y dylai gwydr fod yn rhan o’r cynllun yng Nghymru.
Mae ailgylchu poteli gwydr yn gostwng y risg o anaf i bobl a bywyd gwyllt yn ogystal â lleihau ein heffaith amgylcheddol. A dweud y gwir, bydd cynnwys gwydr yng Nghynllun Dychwelyd Ernes yr Alban yn arwain at ostyngiad yn allyriadau CO2 cyfwerth o fwy na 50,000 tunnell bob blwyddyn – neu bron i 1.3 miliwn tunnell dros 25 mlynedd!
Bydd Cynllun Dychwelyd Ernes yr Alban yn helpu i fynd i’r afael â phla sbwriel poteli gwydr mewn cymunedau, gan y bydd cynnwys gwydr yn arwain at ailgylchu 53,000 tunnell ychwanegol o gynwysyddion. Byddai’n wych gweld cymaint o hwb i ailgylchu yma yng Nghymru hefyd.
Mae cartref Polytag yn y Ganolfan Gweithgynhyrchu ac Ymchwil Uwch ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, ac yng nghanol 2021 bu’r cwmni’n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i dreialu Cynllun Dychwelyd Ernes Digidol yn Ucheldir Colwyn.
Bydd yr ateb digidol yn cynnwys argraffu manylion adnabod ar ddeunydd pecynnu y mae modd ei sganio gan berchennog cartref gan ddefnyddio ap ar ffôn clyfar cyn ei roi yn y bin ailgylchu.
Maen nhw wedyn yn gallu hawlio ernes heb orfod mynd â’u hen boteli etc i leoliad ffisegol fel archfarchnad i wneud hynny. Mae’r deunydd pecynnu wedyn yn cael ei gasglu gan gynghorau fel rhan o’u casgliadau gwastraff wrth ymyl y ffordd ac yna’n cael ei ailgylchu.
Datblygiad diweddaraf y cwmni yw sganiwr prototeip y mae modd ei gysylltu ag offer ailgylchu mewn canolfannau ailgylchu awdurdodau lleol i godi gwybodaeth o’r codau bar unigryw sydd wedi’u hargraffu ar y rhan fwyaf o eitemau.
Mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu cyflwyno cynllun dychwelyd ernes yn yr Alban, a Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud yr un peth erbyn 2024. Mae’r Co-op eisoes wedi cytuno i fod yn rhan o dreialon yn y dyfodol ac wedi caniatáu i bob un o boteli dŵr y cwmni gael cod bar arbennig fel y gallant gymryd rhan yn y gwaith o brofi’r offer hwn yn ddiweddarach eleni.