Plans to close the Wales Air Ambulance Services in Caernarfon airport and Welshpool and relocate them to Rhuddlan have been condemned by Sam Rowlands, MS for North Wales and Virginia Crosbie, MP for Ynys Môn.
They have raised their concerns in a joint letter to the Welsh Health Minister following reports that suggested the move would lead to longer response times and reduced availability of air ambulances.
The letter asks the Minister to carefully consider the impact of the move on the North West Wales community which already experiences poor health services with long delays at A&E.
The decision to move the base is not in the hands of the Welsh Air Ambulance but is being driven by the Welsh NHS appointed group EMRTS which is based in South Wales.
Sam Rowlands said:
Health services across North Wales are already on a knife-edge. We are seeing ambulances parked outside our hospitals for hours on end waiting for A&E availability and our air ambulances form a critical part of our local emergency response.
To move the existing two bases which already cover a huge and primarily rural area and replace them with just one site cannot be best for the people of North Wales and particularly those furthest away from Rhuddlan where emergency provision is so challenged already.
I will be raising this matter in the Senedd and urging the Health Minister to take it seriously. She needs to recognise that the people of North Wales deserve better.
Virginia Crosbie said:
Despite Health being a devolved matter, a huge percentage of my casework concerns the failures in local health provision.
People on Ynys Môn already suffer from extremely poor ambulance response times – a survey I carried out earlier this year showed that over 90% of respondents were concerned about getting an ambulance on Anglesey if they needed one.
Indeed the issue is so severe that I intervened last winter to ensure that the Welsh Ambulance Service had military support so that they could run an effective service at that time.”
The dire emergency healthcare situation in North West Wales will only be further exacerbated by moving the air ambulance away from Caernarfon. This proposal is just another kick in the teeth for my constituents.
Yr Aelodau o’r Senedd Sam Rowlands a’r Aelod Seneddol Virginia Crosbie yn codi pryderon am gynlluniau i gau gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru
Cafodd cynlluniau i gau Gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru ym maes awyr Caernarfon a'r Trallwng a'u hadleoli i Rhuddlan eu condemnio gan Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros ranbarth Gogledd Cymru a Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn.
Maen nhw wedi codi pryderon mewn llythyr ar y cyd at Weinidog Iechyd Cymru yn dilyn adroddiadau sy'n awgrymu y byddai'r newid yn arwain at amseroedd ymateb hirach a llai o ambiwlansys awyr ar gael. Mae'r llythyr yn gofyn i'r Gweinidog ystyried yn ofalus effaith y symud ar gymunedau'r Gogledd-orllewin sydd eisoes yn profi gwasanaethau iechyd gwael gydag oedi hir yn yr adran damweiniau ac achosion brys.
Dyw'r penderfyniad i symud y ganolfan ddim yn nwylo Ambiwlans Awyr Cymru ond yn cael ei lywio gan grŵp EMRTS o dde Cymru a benodwyd gan GIG Cymru.
Meddai Sam Rowlands:
“Mae gwasanaethau iechyd ar draws y Gogledd eisoes mewn trybini. Rydyn ni'n gweld ambiwlansys wedi'u parcio y tu allan i'n hysbytai am oriau lawer yn disgwyl am le yn yr adran damweiniau ac achosion brys, ac mae ein hambiwlansys awyr yn rhan hanfodol o'n hymateb brys lleol.
“Go brin mai disodli dwy ganolfan sudd eisoes yn cwmpasu ardal enfawr, wledig yn bennaf, gyda dim ond un safle, sydd orau i bobl y Gogledd - yn enwedig y rheini sydd bellaf i ffwrdd o Ruddlan lle mae'r ddarpariaeth frys wedi'i herio i'r eithaf fel y mae.
“Byddaf yn codi'r mater hwn yn y Senedd ac yn annog y Gweinidog Iechyd i'w gymryd o ddifrif. Mae angen iddi cydnabod bod pobl y Gogledd yn haeddu gwell.”
Dywedodd Virginia Crosbie:
Er bod iechyd yn fater datganoledig, mae canran enfawr o'm gwaith achos yn ymwneud â'r methiannau yn y ddarpariaeth iechyd lleol.
Mae trigolion Ynys Môn eisoes yn dioddef amseroedd ymateb ambiwlans hynod wael - mae arolwg y gwnes i ei gynnal yn gynharach eleni yn dangos bod dros 90% o'r ymatebwyr yn poeni am gael ambiwlans ar Ynys Môn os oedd angen un arnyn nhw.
Yn wir, mae'r mater mor ddifrifol nes i mi ymyrryd y gaeaf diwethaf i sicrhau bod gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru gefnogaeth filwrol er mwyn iddyn nhw redeg gwasanaeth effeithiol bryd hynny.
Bydd symud yr ambiwlans awyr i ffwrdd o Gaernarfon yn gwaethygu'r sefyllfa gofal iechyd ddifrifol yn y Gogledd-orllewin ymhellach. Mae'r cynnig hwn yn ergyd arall i'm hetholwyr.