Sam Rowlands MS for North Wales is calling for Welsh Government to make lung health a priority.
Mr Rowlands, recently joined fellow MS’s, outside the Senedd to celebrate the launch of Asthma + Lung UK Cymru, the new charity name of Asthma UK and the British Lung Foundation.
He said:
I was shocked to hear that Wales has the highest levels of respiratory deaths in Western Europe with one in five people having a lung condition and amazed at how little funding this charity receives to help with research.
I understand that during the height of the pandemic half of the population who were shielding also suffered with this. It is absolutely astounding.
Welsh Government certainly needs to get a grip on this and make lung health a priority. I shall certainly be raising the issue in the Senedd as a matter of urgency.
Asthma + Lung UK has called on the Welsh Government to make lung health a priority by restarting services and ensuring people have access to the treatment and support they need to keep well.
The charity says the state of lung health in the UK is ‘shameful’ with more deaths than anywhere else in Europe apart from Turkey and hospitalisations for lung conditions doubling in England and Wales in the last 20 years.
Lung disease is the third biggest killer in the UK but only 2% is spent on publicly funded research.
Sarah Woolnough, Chief Executive of Asthma + Lung UK said:
The state of lung health in the UK is shameful, with more than 100,000 people dying every year from lung conditions.
For far too long lung conditions have been treated like the poor relation compared with other major illnesses like cancer and heart disease. We need urgent action now.
Sam Rowlands AS yn cefnogi galwad Asthma + Lung UK Cymru i drawsnewid iechyd ysgyfaint y genedl
Mae Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i iechyd yr ysgyfaint.
Yn ddiweddar, ymunodd Mr Rowlands â’i gyd Aelodau o’r Senedd y tu allan i’r Senedd i ddathlu lansiad Asthma + Lung UK Cymru, enw newydd elusen Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint.
Meddai:
Roedd hi’n syndod gen i weld mai yng Nghymru y mae’r lefelau uchaf o farwolaethau resbiradol yng Ngorllewin Ewrop gydag un o bob pump â chyflwr ar yr ysgyfaint. Roedd hi hefyd yn fraw gweld cyn lleied o gyllid y mae’r elusen hon yn ei dderbyn i’w helpu gydag ymchwil.
Yn ystod brig ton y pandemig, deallaf fod hanner y boblogaeth a oedd yn cysgodi hefyd yn dioddef gyda chyflwr o’r fath. Mae’n gwbl anhygoel.
Heb os, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r sefyllfa a rhoi blaenoriaeth i iechyd yr ysgyfaint. Byddaf yn sicr o godi’r mater yn y Senedd ar unwaith.
Mae Asthma + Lung UK wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i iechyd yr ysgyfaint drwy ailddechrau gwasanaethau a sicrhau bod gan bobl fynediad at y driniaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i gadw’n iach.
Mae’r elusen yn dweud bod cyflwr iechyd yr ysgyfaint y DU yn ‘gywilyddus’ gyda mwy o farwolaethau nag yn unman arall yn Ewrop ar wahân i Dwrci, gyda nifer y rhai y bu’n rhaid iddyn nhw fynd i’r ysbyty oherwydd eu cyflwr wedi dyblu yng Nghymru a Lloegr yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Clefyd yr ysgyfaint yw’r trydydd cyflwr sy’n lladd y mwyaf yn y DU ond dim ond 2% sy’n cael ei wario ar ymchwil a gyllidir yn gyhoeddus.
Meddai, Sarah Woolnough, Prif Weithredwr Asthma + Lung UK:
Mae cyflwr iechyd yr ysgyfaint yn y DU yn gywilyddus, gyda mwy na 100,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o gyflyrau’r ysgyfaint.
Ers yn rhy hir o lawer, mae cyflyrau’r ysgyfaint wedi’u trin fel y perthynas dibwys o’i gymharu ag afiechydon difrifol eraill fel canser a chlefyd y galon. Mae angen i ni weithredu ar frys nawr.