Sam Rowlands MS for North Wales is urging the Welsh Government to make sure school leavers are made more aware of apprenticeship opportunities.
Mr Rowlands, chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism, was commenting after a leading apprenticeship provider challenged Welsh Government to do more.
Mr Arwyn Watkins, the managing director of Cambrian Training Company, is calling for the education system to direct more school leavers to apprenticeships at the Mid-Wales Tourism and Hospitality Industry conference today.
In his speech to delegates he will refer to the recruitment crisis in the hospitality industry and will call for an education system which directs more school leavers towards apprenticeships in industries where they are most needed.
Mr Rowlands said:
I have always been an enthusiastic supporter of apprenticeships as they are an excellent way of learning and I fully support the calls by Mr Watkins.
We all know that the hospitality industry has been one of the hardest hit by the pandemic, particularly in North Wales, and it makes good sense to encourage more young people to take it up as a career.
The tourism industry is vital to Wales's economic prosperity. In North Wales and for the region I represent, it employs around 40,000 people and contributes around £3.5 billion a year to the local economy.
It was this time last year when there were real pressures and we are talking about nearly 100% of businesses within the tourism and hospitality sector having to close for a prolonged period of time, with around 80% of staff being furloughed.
We really do need to refocus and make sure people are aware of the opportunities within the hospitality industry.
In August The Wales Tourism Alliance supported a national campaign launched by Visit Wales and Welsh Government in response to nationwide shortages following the coronavirus pandemic.
The call highlighted the need to focus on personal development opportunities and potential career paths in the hospitality industry.
Mae Sam Rowlands AS yn cefnogi'r galw i annog mwy o bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol i wneud prentisiaethau yn y diwydiant Twristiaeth
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ranbarth Gogledd Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl ifanc sy'n gadael yr ysgol yn cael mwy o wybodaeth am gyfleoedd prentisiaeth.
Daeth sylwadau Mr Rowlands, cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, ar ôl i ddarparwr prentisiaethau blaenllaw herio Llywodraeth Cymru i wneud mwy.
Mae Mr Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn galw ar y system addysg i gyfeirio mwy o bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol at brentisiaethau yng nghynhadledd Diwydiant Twristiaeth a Lletygarwch Canolbarth Cymru heddiw.
Yn ei araith i gynrychiolwyr, bydd yn cyfeirio at yr argyfwng recriwtio yn y diwydiant lletygarwch ac yn galw am system addysg sy'n cyfeirio mwy o bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol tuag at brentisiaethau mewn diwydiannau lle mae eu hangen fwyaf.
Meddai Mr Rowlands:
Rydw i wedi bod yn gefnogwr brwd prentisiaethau erioed gan eu bod yn ffordd wych o ddysgu ac rydw i'n cefnogi sylwadau Mr Watkins gant y cant.
Gwyddom i gyd mai'r diwydiant lletygarwch fu un o'r rhai a gafodd eu taro waethaf gan y pandemig, yn enwedig yn y Gogledd, ac mae'n gwneud synnwyr i annog mwy o bobl ifanc i fynd ar drywydd gyrfa yn y diwydiant hwn.
Mae'r diwydiant twristiaeth yn hanfodol i ffyniant economaidd Cymru. Yn y Gogledd ac ar gyfer y rhanbarth rydw i'n ei gynrychioli, mae'n cyflogi tua 40,000 o bobl ac yn cyfrannu tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'r economi leol.
Yr adeg hon y llynedd roedd pwysau gwirioneddol, gyda bron i 100% o fusnesau o fewn y sector twristiaeth a lletygarwch yn gorfod cau am gyfnod hir, gyda thua 80% o'r staff yn cael eu rhoi ar ffyrlo.
Mae gwir angen i ni ffocysu o'r newydd a sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cyfleoedd yn y diwydiant lletygarwch.
Ym mis Awst, cefnogodd Cynghrair Twristiaeth Cymru ymgyrch genedlaethol a lansiwyd gan Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i brinder cenedlaethol yn dilyn pandemig y coronafeirws.
Roedd yr ymgyrch yn pwysleisio'r angen i ganolbwyntio ar gyfleoedd datblygu personol a llwybrau gyrfa posibl yn y diwydiant lletygarwch.