Sam Rowlands MS for North Wales is supporting the council’s plans to improve its biodiversity.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, is backing a project by Denbighshire County council to track migrating insects.
He said:
Local authorities have a responsibility to put a plan in place to enhance its biodiversity and I am delighted to hear about this latest initiative. DCC has nearly 60 areas including highway verges, footpath edges, cycleways and amenity grasslands, which are being managed to create wildflower meadows.
As well as protecting wildflowers the meadows are also supporting the welfare of native insects to the Denbighshire area.
It is absolutely vital projects like these continue to help preserve native flowers and insects. In 2018 Denbighshire was recognised as a Bee Friendly County, and I’ve been fascinated about the Hornet Hoverflies that have been found around Rhuddlan and Prestatyn.
All wildflower sites are managed in line with Plantlife’s Managing Grassland Road Verges guidelines which sees the grass cutting at these sites prohibited between March and August each year, giving wildflowers enough time to grow, flower, and set seed.
The site is then cut after August and cuttings collected to reduce soil fertility and provide the wildflowers with the best conditions possible.
Click here to find out more about the wildflower meadows across Denbighshire.
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymrwymiad Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, yn cefnogi cynlluniau’r cyngor i wella ei brosesau bioamrywiaeth.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Llywodraeth Leol, yn cefnogi prosiect gan Gyngor Sir Ddinbych i olrhain pryfed sy’n ymfudo.
Meddai Mr Rowlands:
Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i roi cynllun ar waith er mwyn gwella ei brosesau bioamrywiaeth ac rydw i wrth fy modd yn clywed am y fenter ddiweddaraf hon. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych bron i 60 o ardaloedd yn cynnwys ymylon priffyrdd, ochrau llwybrau, llwybrau beiciau a glaswelltiroedd amwynderau, sy’n cael eu rheoli i greu gweirgloddiau o flodau gwyllt.
Yn ogystal â diogelu blodau gwyllt, mae’r gweirgloddiau’n cefnogi lles pryfed sy’n gynhenid i ardal Sir Ddinbych hefyd.
Mae’n gwbl hanfodol bod prosiectau fel hyn yn parhau er mwyn helpu i warchod blodau a phryfed cynhenid. Yn 2018, cafodd Sir Ddinbych ei chydnabod fel Sir Sy’n Caru Gwenyn, ac mae’r Cacwn Hofran, sydd wedi’u canfod o amgylch ardal Rhuddlan a Phrestatyn, o ddiddordeb mawr i mi.
Caiff yr holl safleoedd blodau gwyllt eu rheoli yn unol â chanllawiau Rheoli Glaswelltiroedd Ymylon Ffyrdd Plantlife lle na chaniateir torri gwair yn y safleoedd hyn rhwng mis Mawrth a mis Awst bob blwyddyn, gan roi digon o amser i flodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu.
Yna caiff y safle ei dorri ar ôl mis Awst a chesglir y toriadau er mwyn gostwng ffrwythlondeb y pridd a rhoi’r amodau gorau posibl i’r blodau gwyllt.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y gweirgloddiau o flodau gwyllt ar hyd a lled Sir Ddinbych.