Sam Rowlands MS for North Wales is urging his constituents to take part in the annual Big Garden Birdwatch next week.
He said:
The Royal Society of Protection of Birds, RSPB, is calling on us all to take an hour out of our day from January 28-30 to count birds and wildlife in our gardens or local parks.
It is an amazing initiative and last year over a million people took part and it is something I fully support. Not only is it a wonderful idea it is an event where all the family can get involved.
All you have to do is spend the time writing down all the different birds you see and then upload the information.
I would urge everyone to take part and help RSPB to make a note of how many different species they see.
The Big Garden Birdwatch in 2021 was the biggest birdwatch so far with over a million people taking part, counting 17 million birds.
The House Sparrow, Starling and Robin all had a strong year last year, however, the annual birdwatch continues to see declines year on year for many well known and loved species, such as the blue tit, chaffinch and goldfinch.
The information collected helps the conservation charity to form a picture of how wildlife is faring across the UK. Figures show that in the last 50 years 38 million birds have been lost from UK skies so it is vital we look after our wildlife.
The RSPB depends on public support to save nature and to look after places where wildlife can thrive. By taking part in Big Garden Birdwatch, you can also make a difference. Wherever you are, whatever you see, it counts!
Mae Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch fawr i annog pobl i gyfrif adar yn eu gerddi a’u parciau lleol.
Mae Sam Rowlands, sy’n Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog ei etholwyr i gymryd rhan yn ymgyrch flynyddol Gwylio Adar yr Ardd yr wythnos nesaf.
Dywedodd:
Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (yr RSPB) yn galw ar bawb ohonom i neilltuo awr rhwng 28 a 30 Ionawr ar gyfer cyfrif adar a bywyd gwyllt yn ein gerddi neu yn ein parciau lleol.
Mae’n fenter anhygoel. Cymerodd dros filiwn o bobl ran ynddi y llynedd ac mae’n rhywbeth rwy’n ei gefnogi’n llwyr. Mae’n syniad gwych, ac mae’n ddigwyddiad i’r teulu cyfan hefyd.
Y cyfan sydd eisiau i chi ei wneud yw treulio'r amser yn cofnodi’r holl adar gwahanol a welwch ac yna llwytho'r wybodaeth.
Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan a helpu’r RSPB i nodi sawl rhywogaeth wahanol maen nhw’n ei gweld.
Gwylio Adar yr Ardd 2021 oedd y fwyaf yn hanes yr ymgyrch; cafodd 17 miliwn o adar eu cyfrif gan y filiwn o bobl a gymerodd ran.
Cafodd adar y to, drudwy a’r robin goch flwyddyn gref y llynedd, ond mae’r ymarfer gwylio adar blynyddol yn parhau i weld dirywiad o’r naill flwyddyn i’r llall yn niferoedd llawer o rywogaethau adnabyddus a hoff, megis rhywogaethau’r titw tomos las, yr asgell fraith a’r nico.
Mae'r wybodaeth a gesglir yn helpu'r elusen gadwraeth i greu darlun o sut mae hi ar fywyd gwyllt y DU. Yn ôl ffigurau ar gyfer y DU, mae 38 miliwn o adar wedi diflannu o’n hwybrennau dros yr 50 mlynedd diwethaf, felly mae’n hanfodol ein bod yn gofalu am ein bywyd gwyllt.
Mae’r RSPB yn dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd i achub byd natur ac i ofalu am fannau lle gall bywyd gwyllt ffynnu. Drwy gymryd rhan yn ymarfer Gwylio Adar yr Ardd, gallwch chi hefyd wneud gwahaniaeth. Ble bynnag yr ydych chi, beth bynnag a welwch, mae'n cyfrif!