Sam Rowlands MS for North Wales is calling for more support for tourism businesses in Wales.
Next week is Wales Tourism Week and Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and Chair of the Senedd’s Cross Party group on Tourism wants to see more being done to support the sector.
He said:
I am delighted to be hosting an event at the Senedd on Wednesday May 18 to mark Wales Tourism Week, May 16-22 where members of the Welsh Parliament will be welcome to meet representatives and learn more about the sector from those involved in this industry.
In North Wales I regularly visit local businesses involved in tourism and will be out and about across Wales next week to promote the initiative which also includes a recruitment campaign. I am particularly keen to spread the message to encourage more people to join the industry.
As more and more visitors come to our beautiful country the tourism and hospitality sector needs more staff with a huge variety of roles on offer, from working in beach bars and restaurants, to five-star hotels and visitor attractions.
Wales Tourism Week, 2022 is an opportunity for tourism sites across Wales to raise awareness of the sector and showcase the quality of Wales’ tourism offer to both UK domestic and international tourists. Local politicians are encouraged to find out more about the tourism businesses in their areas and meet with those involved.
This year our theme for the week is in Support of the Tourism and Hospitality skills and recruitment campaign -#theexperiencemakers.
The campaign targets young people – school leavers, students, those unsure about their future career; young adults who may be looking for flexible working around eg childcare and older adults looking for part-time work or a career change. The message of the campaign is to join the experience makers.
Mr Rowlands added:
We must never under-estimate the importance of tourism in Wales which welcomes around 100 million visits every single year. These are people enjoying our great nation, spending their money, supporting local jobs and visiting our spectacular attractions.
In North Wales, the tourism sector has been particularly hard hit because of the pandemic. Lockdowns and restrictions saw a number of businesses shut down, while others struggled to stay afloat.
Visitors here spend significant sums and invest significantly in our country, benefiting our local economies, from hoteliers to restaurants to those who run incredible attractions up and down Wales and they deserve our full support.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Wythnos Twristiaeth Cymru, 16-22 Mai
Mae Sam Rowlands, AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, yn galw am ragor o gefnogaeth i fusnesau twristiaeth yng Nghymru.
Mae hi’n Wythnos Twristiaeth Cymru yr wythnos nesaf ac mae Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, am weld rhagor yn cael ei wneud i gefnogi’r sector.
Meddai:
Rwy’n falch iawn o gael cynnal digwyddiad yn y Senedd ddydd Mercher 18 Mai i ddathlu Wythnos Twristiaeth Cymru, 16-22 Mai, lle bydd croeso i Aelodau o’r Senedd gyfarfod cynrychiolwyr a dysgu mwy am y sector gan y rhai sy’n rhan o’r diwydiant.
Yn y Gogledd rwy’n mynd yn rheolaidd i ymweld â busnesau lleol sy’n rhan o’r byd twristiaeth a byddaf ar y lôn ledled Cymru yr wythnos nesaf yn hyrwyddo’r fenter hon sydd hefyd yn cynnwys ymgyrch recriwtio. Rwy’n awyddus dros ben i ledaenu’r neges i annog rhagor o bobl i ymuno â’r diwydiant.
Wrth i fwy a mwy o ymwelwyr ddod i’n gwlad hyfryd, mae’r sector twristiaeth a lletygarwch angen mwy o staff. Mae amrywiaeth enfawr o rolau i’w cynnig, o weithio mewn bariau a bwytai ar draethau i westai pum seren ac atyniadau i ymwelwyr.
Mae Wythnos Twristiaeth Cymru 2022 yn gyfle i safleoedd twristiaeth ledled Cymru godi ymwybyddiaeth o’r sector ac arddangos ansawdd cynnig twristiaeth Cymru i dwristiaid – boed yn rhai domestig o’r DU neu’n dwristiaid rhyngwladol. Anogir gwleidyddion lleol i ganfod mwy am y busnesau twristiaeth yn eu hardaloedd a chyfarfod y rhai sy’n rhan o’r diwydiant.
Thema’r wythnos eleni yw Cefnogi ymgyrch recriwtio a sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch -#theexperiencemakers.
Mae’r ymgyrch yn targedu pobl ifanc – disgyblion sy’n gadael yr ysgol, myfyrwyr, y rhai sy’n ansicr am eu gyrfaoedd yn y dyfodol, oedolion ifanc a allai fod am weithio’n hyblyg oherwydd gofynion gofal plant ac oedolion hŷn sy’n chwilio am waith rhan-amser neu sydd am newid eu gyrfa. Neges yr ymgyrch yw ymuno â’r rhai sy’n gwneud profiadau.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Allwn ni byth danbrisio pwysigrwydd twristiaeth yng Nghymru sy’n croesawu tua 100 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Dyma bobl sy’n mwynhau ein cenedl wych, gan wario eu harian, cefnogi swyddi lleol ac ymweld â’n hatyniadau gwych.
Yn y Gogledd, mae’r sector twristiaeth wedi cael ei effeithio’n wael gan y pandemig. Yn sgil cyfyngiadau symud a chyfnodau clo, caeodd nifer o fusnesau eu drysau, tra bod eraill yn cael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd.
“Mae ymwelwyr yn gwario llawer o arian yma ac yn buddsoddi’n sylweddol yn ein gwlad, gan roi budd i’n heconomïau lleol, o westywyr i fwytai i’r rhai sy’n rhedeg atyniadau rhagorol ledled Cymru ac maent yn haeddu ein cefnogaeth lawn.