Sam Rowlands, the Senedd Member for North Wales is supporting the Stroke Association’s call to ‘act FAST’ on World Stroke Day, Saturday October 29.
Mr Rowlands is urging his constituents to be aware of the need to ‘act FAST’ if they recognise the symptoms of a stroke.
He said:
As we mark World Stroke Day it is absolutely vital everyone knows the symptoms of a stroke, and how important it is to phone 999 as quickly as possible if you or your family are experiencing any of the symptoms.
Acting FAST is the biggest and most important thing you can do to save a life and prevent severe disability from stroke.
I am pleased to support the Stroke Association on World Stroke Day, and urge everyone in North Wales to ‘act FAST’ today.
It is also essential that the Welsh Government and Public Health Wales ensures everyone in Wales knows these symptoms, so anyone experiencing a stroke makes the right call and phones 999 straight away.
This year’s World Stroke Day coincides with the 13th anniversary of the Act FAST campaign launch. To mark the campaign becoming a teenager, the Stroke Association conducted a survey of teenagers, aged 13-19 with some survey questions also asked to their parents.
The new research shows that over two thirds (69%) of Welsh teenagers are unaware of the FAST (Face Arm Speech Time) acronym, which helps people recognise the signs of a stroke and what to do when stroke strikes. Parents of those surveyed also showed low awareness, with over half (60%) unaware of the stroke awareness acronym.
The charity fears that many people across Wales are not equipped with the vital knowledge of how to spot a stroke and that calling 999 immediately is critical to saving lives and preventing disability from stroke.
The FAST test covers the most common symptoms of a stroke, and can be used to quickly identify the need to phone 999:
- Face – has their face fallen on one side? Can they smile?
- Arms – can they raise both their arms and keep them there?
- Speech – is their speech slurred?
- Time – time to call 999 if you spot any of these signs
Katie Chappelle, Associate Director for Wales at the Stroke Association, said:
Stroke is a medical emergency and needs an emergency response. The message of Act FAST remains as relevant as ever. By passing it on to all generations, everyone can play their part in helping more people get timely treatment for stroke, preventing deaths and reducing disability.
We’ve seen impressive results from previous Act FAST campaigns. These survey statistics show just how important it is that we continue to raise awareness of the symptoms of stroke, it’s worrying that so few know the signs of a stroke. Therefore, we urge the Government to continue to invest in the Act FAST campaign.
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch i ymateb yn ‘FAST’ os oes amheuaeth o strôc
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi galwad y Gymdeithas Strôc i weithredu yn ‘FAST’ ar Ddiwrnod Strôc y Byd, ddydd Sadwrn 29 Hydref.
Mae Mr Rowlands yn annog ei etholwyr i fod yn ymwybodol o’r angen i weithredu yn ‘FAST’ os ydyn nhw’n amau symptomau strôc.
Meddai:
Wrth i ni nodi Diwrnod Strôc y Byd, mae’n gwbl hanfodol fod pawb yn adnabod symptomau strôc, ac yn deall pa mor bwysig yw ffonio 999 cyn gynted â phosibl os ydych chi neu’ch teulu yn profi unrhyw symptomau.
Ymateb ‘FAST’ yw’r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i achub bywyd ac atal anabledd difrifol yn sgil strôc.
Rwy’n falch iawn o gefnogi Diwrnod Strôc y Byd y Gymdeithas Strôc, ac yn erfyn ar bawb yn y Gogledd i weithredu ar unwaith heddiw.
Mae hefyd yn hollbwysig bod y Senedd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn adnabod y symptomau hyn, fel bod pawb sy’n wynebu strôc yn gwneud yr alwad briodol ac yn ffonio 999 ar unwaith.
Mae Diwrnod Strôc y Byd eleni yn cyd-daro â phen-blwydd lansiad ymgyrch ‘Act FAST’ yn 13 oed. Wrth i’r ymgyrch gyrraedd ei glasoed, mae’r Gymdeithas Strôc yn nodi’r achlysur gydag arolwg ymhlith y glasoed, 13 i 19 oed, gyda rhai cwestiynau arolwg i’w rhieni hefyd.
Dengys yr ymchwil newydd nad yw dros ddau o bob tri (69%) o’r glasoed yng Nghymru yn ymwybodol o’r acronym Saesneg FAST (Face Arm Speech Time), sy’n helpu pobl i adnabod arwyddion strôc a beth i’w wneud mewn achos o strôc. Roedd rhieni'r rhai a arolygwyd yn dangos diffyg ymwybyddiaeth hefyd, gyda thros hanner (60%) ddim yn ymwybodol o’r acronym ymwybyddiaeth o strôc.
Mae’r elusen yn bryderus nad oes gan lawer o bobl ledled Cymru y wybodaeth hanfodol sydd ei hangen ynghylch adnabod strôc a bod ffonio 999 ar unwaith yn hanfodol i achub bywydau ac atal anabledd yn sgil strôc.
Mae prawf FAST (Face, Arms, Speech, Time) yn cynnwys symptomau mwyaf cyffredin strôc, a gellir ei ddefnyddio i adnabod yr angen i ffonio 999 ar unwaith:
- Wyneb – ydy’r wyneb wedi cwympo ar un ochr? Ydyn nhw’n gallu gwenu?
- Breichiau – ydyn nhw’n gallu codi eu dwy fraich a’u cadw yno?
- Lleferydd – ydy eu lleferydd nhw’n aneglur?
- Amser – amser i ffonio 999 os ydych chi’n nodi un o’r arwyddion hyn.
Meddai Katie Chappell, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru y Gymdeithas Strôc:
Mae strôc yn argyfwng meddygol ac mae angen ymateb ar frys. Mae neges FAST yr un mor berthnasol ag erioed. Drwy rannu’r neges â phob cenhedlaeth, gall pawb wneud eu rhan i helpu pobl sydd â strôc i gael eu trin yn gynt, gan atal marwolaethau a lleihau anabledd.
Rydyn ni wedi gweld canlyniadau trawiadol o ymgyrchoedd FAST yn y gorffennol. Mae ystadegau’r arolwg hyn yn dangos pa mor bwysig yw parhau i godi ymwybyddiaeth o symptomau strôc ac mae’n bryderus bod cyn lleied yn adnabod arwyddion strôc. Felly, rydyn ni’n annog y Llywodraeth i ddal ati i fuddsoddi yn ymgyrch FAST.