Sam Rowlands MS for North Wales is calling on residents to voice their concerns about the Welsh Government’s plans to introduce a blanket 20mph speed limit across Welsh towns and villages.
Following a meeting with residents from Buckley, Mr Rowlands is urging local residents to get in touch and share their concerns. A pilot of the Welsh Government’s plans has focused on Buckley.
He said:
I met with local councillor Adie Drury and residents in Buckley, this morning who are extremely frustrated at the pilot scheme which has led to roads through the town having a 20mph speed limit instead of 30mph.
They are quite rightly very concerned as they believe that pollution is increasing because cars have to drive in a lower gear and wait longer at traffic lights, there have also been more accidents and the cost of the scheme is thought to be in the region of £33 million across Wales which would be better spent on more teachers, doctors and nurses.
The trial has certainly caused a lot of problems for people living in Buckley and I am angry on their behalf as there does appear to be a lack of public awareness around these changes.
I do support letting councils put 20mph speed limits outside schools, hospitals and other areas where evidence shows it’s a benefit, but a blanket 20mph speed limit across urban roads in Wales is just not right.
The Welsh Parliament is due to consider whether to reduce the default, urban speed limit from 30mph to 20mph on Tuesday July 12 and I am now urging people across North Wales and beyond to get in touch with their local MSs and let them know their views.
Flintshire was one of eight areas across Wales selected for a government trial which reduced speed limits from 30mph to 20mph on residential roads. As a result, all unclassified roads, 30mph within Buckley, Mynydd Isa, Bryn-y-Bal and New Brighton became 20mph zones.
Since its introduction in February there has been an outcry from local residents who collected thousands of signatures calling on the Welsh Government not to impose the 20mph speed limit.
To contact Sam Rowlands, email [email protected] or call 0300 200 7267.
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrchwyr sy'n brwydro yn erbyn terfyn cyflymder o 20mya ym Mwcle
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar drigolion i leisio eu pryderon am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya ar draws trefi a phentrefi Cymru.
Yn dilyn cyfarfod gyda thrigolion Bwcle, mae Mr Rowlands yn annog trigolion lleol i gysylltu a rhannu eu pryderon. Mae cynllun peilot o gynlluniau Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar Fwcle.
Meddai:
Bore 'ma, cefais gyfarfod â'r cynghorydd lleol, Adie Drury, a thrigolion Bwcle, sy'n rhwystredig iawn ynghylch y cynllun peilot sydd wedi golygu terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd yn y dref, yn hytrach na 30mya.
Maen nhw'n poeni'n fawr ac o’r farn bod llygredd yn cynyddu oherwydd bod ceir yn gyrru mewn gêr is ac yn aros yn hirach wrth oleuadau traffig. Hefyd, mae cynnydd wedi bod yn y nifer o ddamweiniau ac amcangyfrifir bod y cynllun wedi costio oddeutu £33 miliwn ledled Cymru. Byddai’r arian hwn wedi cael ei wario'n well ar ariannu mwy o athrawon, meddygon a nyrsys.
Mae'r treial yn sicr wedi achosi llawer o broblemau i bobl sy'n byw ym Mwcle ac rwy'n ddig ar eu rhan nhw gan ei bod yn ymddangos nad yw'r cyhoedd wedi bod yn gwbl ymwybodol o'r newidiadau hyn.
Rwy'n cefnogi gadael i gynghorau roi terfynau cyflymder o 20mya y tu allan i ysgolion, ysbytai ac ardaloedd eraill lle mae tystiolaeth yn dangos bod budd i hynny, ond nid yw terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya ar draws ffyrdd trefol yng Nghymru yn iawn.
Mae disgwyl i Senedd Cymru ystyried a ddylid lleihau'r terfyn cyflymder trefol diofyn o 30mya i 20mya ddydd Mawrth 12 Gorffennaf, ac rwy'n annog pobl ar draws y Gogledd a thu hwnt i gysylltu â'u ASau lleol i fynegi eu barn.
Roedd Sir y Fflint yn un o wyth ardal ledled Cymru a ddewiswyd ar gyfer treial gan y llywodraeth i leihau terfynau cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd preswyl. O ganlyniad, daeth pob ffordd ddi-ddosbarth oedd â therfyn cyflymder o 30mya ym Mwcle, Mynydd Isa, Bryn-y-Baal a New Brighton yn barthau 20mya.
Ers i’r cynllun gael ei gyflwyno ym mis Chwefror, mae pobl leol wedi bod yn protestio'n ffyrnig, gan gasglu miloedd o lofnodion yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â gosod terfyn cyflymder o 20mya.
I gysylltu â Sam Rowlands, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 0300 200 7267.