Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging constituents to use an online service for information or advice about their health and wellbeing.
Mr Rowlands, is backing Dewis, a free online resource designed to make information about local services available to the public to promote individual wellbeing.
He said:
I am happy to support such an excellent initiative which allows people to search for a list of local and national services which best meet their needs.
Dewis, which is a free online resource which provides information about services available to the public to help promote wellbeing is a fantastic idea.
I must congratulate the team in Wrexham Family Information Service (WFIS) have been working hard to increase the number of services in Wrexham who have their information on Dewis. Keep up the good work.
If you want information or advice about your health and wellbeing or want to know how you can help somebody else, then Dewis is for you.
Dewis incorporates practical help and support, including community groups, activities, events, local services and national organisations and can be accessed in English and Welsh.
Members of the public can search for a topic relevant to them and find a comprehensive list of local and national services that best meet their well-being needs.
From the home page type in what you are looking for, along with your postcode and click ‘Search now’ to find a list of local services to help you.
There are a wide range of categories to explore, such as adult day opportunities, community connectors/social prescribers, library services, events and many more.
If you would like more information about Dewis you can email [email protected]
Sam Rowlands AS yn cefnogi adnodd ar-lein am ddim
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog etholwyr i ddefnyddio gwasanaeth ar-lein i gael gwybodaeth neu gyngor am eu hiechyd a'u lles.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi Dewis, adnodd ar-lein am ddim sydd wedi'i lunio i sicrhau bod gwybodaeth am wasanaethau lleol ar gael i'r cyhoedd er mwyn hyrwyddo lles unigolion.
Meddai:
Rwy'n hapus i gefnogi menter mor wych sy'n caniatáu i bobl chwilio am restr o wasanaethau lleol a chenedlaethol sy'n diwallu eu hanghenion yn y ffordd orau.
Mae Dewis, sy'n adnodd ar-lein am ddim sy'n darparu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i'r cyhoedd i helpu i hyrwyddo eu lles, yn syniad gwych.
Rhaid i mi longyfarch y tîm yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam (WFIS) sydd wedi bod yn gweithio'n galed i gynyddu nifer y gwasanaethau yn Wrecsam sydd â'u gwybodaeth yn Dewis. Daliwch ati gyda'r gwaith da.
Os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich iechyd a'ch lles neu am wybod sut y gallwch chi helpu rhywun arall, yna mae Dewis ar eich cyfer chi.
Mae Dewis yn ymgorffori cymorth a chefnogaeth ymarferol, gan gynnwys grwpiau cymunedol, gweithgareddau, digwyddiadau, gwasanaethau lleol a sefydliadau cenedlaethol a gellir cael mynediad atyn nhw drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Gall aelodau'r cyhoedd chwilio am bwnc sy'n berthnasol iddyn nhw a dod o hyd i restr gynhwysfawr o wasanaethau lleol a chenedlaethol sy'n diwallu eu hanghenion lles yn y ffordd orau.
Ar y dudalen hafan, teipiwch yr hyn rydych chi’n chwilio amdano, ynghyd â’ch cod post a chliciwch ar y botwm chwilio er mwyn dod o hyd i restr o wasanaethau lleol i'ch helpu.
Mae amrywiaeth eang o gategorïau ar gael, megis cyfleoedd dydd ar gyfer oedolion, cysylltwyr cymunedol/rhagnodwyr cymdeithasol, gwasanaethau llyfrgell, digwyddiadau a llawer mwy.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Dewis, gallwch e-bostio [email protected]