Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales is calling on his constituents to support a food and drink festival in his region this weekend.
Mr Rowlands is urging the public to attend Wrexham Feast being held in the town centre on September 24 and 25.
He said:
“It is great to see the return of this popular event which is set to attract hundreds of visitors from the Wrexham area and all over North Wales.
“This year’s festival will have all the usual attractions with plenty of different food and drink on offer to sample and live music and entertainment throughout both days. There will also be cookery demonstrations and vintage fairground attractions.
“What a great way to promote Wrexham which recently became Wales’s newest city and one of three in North Wales along with St Asaph and Bangor. The festival is well worth a visit this weekend.”
Wrexham Feast is being held on Waterworld carpark in the town centre with a wide array of food, drink, shopping, entertainment and live music, on September 24 and 25, starting at 10am.
The jam-packed weekend includes all things food and drink whether sampling a wide range of street food from around the world or enjoying browsing the Artisan makers, bakers and crafters and independent traders.
Local talent will also be showing their culinary skills on stage with demonstrations taking place from 11 am each day.
A new addition for 2022 is a Feast Cookery school where you can sign up on the day but arrive early to save disappointment as there are limited spaces available each day. There is also a full line up of live music each day.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad mawr arfaethedig a gynhelir yn Wrecsam y penwythnos hwn
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi gŵyl fwyd a diod yn ei ranbarth y penwythnos hwn.
Mae Mr Rowlands yn annog y cyhoedd i fynychu Wrexham Feast a gynhelir yng nghanol y dref ar 24 a 25 Medi.
Dywedodd:
Mae'n wych gweld y digwyddiad poblogaidd hwn yn dychwelyd a fydd yn denu cannoedd o ymwelwyr o ardal Wrecsam a phob rhan o’r Gogledd.
Bydd gan yr ŵyl eleni yr holl atyniadau arferol gyda digonedd o fwydydd a diodydd gwahanol ar gael i'w samplu a cherddoriaeth ac adloniant byw drwy gydol y ddau ddiwrnod. Bydd arddangosiadau coginio hefyd ac atyniadau ffair hen ffasiwn.
Am ffordd wych o hyrwyddo Wrecsam, sef dinas ddiweddaraf Cymru ac un o dair dinas yn y gogledd ynghyd â Llanelwy a Bangor. Mae'n werth ymweld â'r ŵyl y penwythnos hwn.
Cynhelir Wrexham Feast ar faes parcio Waterworld yng nghanol y dref a bydd amrywiaeth eang o fwyd, diod, siopa, adloniant a cherddoriaeth fyw, ar 24 a 25 Medi, gan ddechrau am 10am.
Mae'r penwythnos llawn dop yn cynnwys pob peth sy'n ymwneud â bwyd a diod, yn cynnwys samplu amrywiaeth eang o fwyd stryd o bob cwr o'r byd neu fwynhau pori'r drwy stondinau gwneuthurwyr crefft, pobyddion a chrefftwyr a masnachwyr annibynnol.
Bydd doniau lleol yn arddangos eu sgiliau coginio ar y llwyfan hefyd a chynhelir arddangosiadau bob dydd o 11 y bore.
Ychwanegiad newydd ar gyfer 2022 yw ysgol Goginio Wrexham Feast lle gallwch gofrestru ar y diwrnod ond dewch yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi gan fod nifer cyfyngedig o lefydd ar gael bob dydd. Mae 'na restr lawn o gerddoriaeth fyw bob dydd hefyd.