Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to support a food and drink festival in his region.
Mr Rowlands is urging the public to attend Llangollen Food Festival which is being held in a variety of venues around the town on Saturday October 15.
He said:
I am always happy to promote this popular event which attracts thousands of visitors from all over North Wales and across the UK.
This year’s festival will have all the usual attractions for foodie lovers with plenty of home-grown Welsh artisan delicacies on offer to sample and buy.
Live music and entertainment will be provided by local bands and choirs throughout both days the day in the town square making it a real family affair and well worth a visit.
The Llangollen Food Festival is being held at venues around the town centre with a wide array of food, drink, shopping, entertainment and live music, on October 15 from 10am – 5pm.
One of the highlights of the day will be a demonstration by former BBC TV’s Masterchef Professional quarter finalist, and sous chef at The Wild Pheasant Hotel and Spa, Neil Robertson.
The day includes all things food and drink whether sampling a wide range of street food from around the world or enjoying browsing the Artisan makers, bakers and crafters and independent traders.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad bwyd o fri yn Llangollen y penwythnos nesaf
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi gŵyl fwyd a diod yn ei ranbarth.
Mae Mr Rowlands yn annog y cyhoedd i fynychu Gŵyl Fwyd Llangollen, sy'n cael ei chynnal mewn llefydd amrywiol ar hyd a lled y dref ddydd Sadwrn 15 Hydref.
Meddai:
Dwi bob amser yn hapus i hyrwyddo'r digwyddiad poblogaidd hwn sy'n denu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o'r Gogledd a gweddill y DU.
Bydd yr ŵyl eleni'n cynnwys yr holl atyniadau arferol i'r rhai sy'n hoff o’u bwyd gyda digon o ddanteithion lleol i'w blasu a'u prynu.
Bydd bandiau a chorau lleol yn cynnig adloniant a cherddoriaeth fyw ar sgwâr y dref, gan greu awyrgylch braf i'r teulu cyfan.
Cynhelir Gŵyl Fwyd Llangollen mewn lleoliadau o amgylch canol y dref gyda llond lle o fwyd, diod, siopa, adloniant a cherddoriaeth fyw, ar 15 Hydref rhwng 10am a 5pm.
Un o uchafbwyntiau'r diwrnod fydd arddangosiad gan Neil Robertson, sous chef The Wild Pheasant Hotel and Spa, a gyrhaeddodd rownd y chwarteri ar raglen Masterchef Professional y BBC.
Mae'r diwrnod yn cynnwys popeth i’r bwyd-garwr, o gyfle i flasu bwyd y stryd o bob cwr o’r byd i grwydro’r stondinau amrywiol a chwrdd â chynhyrchwyr, pobyddion a chrefftwyr annibynnol.