Sam Rowlands MS for North Wales is calling on his constituents to support their local hospices.
He said:
Hospice Care Week is the ideal time to remind us all of the immense contribution which hospices make to our communities and to remember the valuable and important role they play. I was fortunate enough recently to visit Ty Gobaith children’s hospice in the Conwy Valley, where I saw at first-hand all the hard work which goes into running a facility. It was truly humbling and I was so impressed with what I saw.
Our hospices provide world class care and the backing of the local community is vital. I urge everyone to support initiatives by their local hospices and help to maintain this invaluable service.
Hospice Care Week, runs from October 4-8 and is an annual event where Hospice UK and hospice care nationwide is recognised and celebrated.
Everybody needs support, encouragement and care and Hospice UK works to ensure all adults and children living with a terminal or life-shortening illness receive the care and support they need, when they need it.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Gofal Hosbis 2021
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi eu hosbisau lleol.
Meddai:
Mae’r Wythnos Gofal Hosbis yn gyfle heb ei ail i’n hatgoffa i gyd o gyfraniad anhygoel hosbisau yn ein cymunedau ac i gofio’r rôl bwysig a gwerthfawr sydd ganddynt. Roeddwn i’n ddigon ffodus yn ddiweddar i gael ymweld â hosbis plant Tŷ Gobaith yn Nyffryn Conwy, lle gwelais â’m llygaid fy hun yr holl waith caled sy’n cael ei wneud i gynnal y cyfleuster. Roedd yn brofiad teimladwy iawn a gwnaeth yr hyn a welais argraff fawr arna’ i.
Mae ein hosbisau yn darparu gofal gyda’r gorau yn y byd ac mae cefnogaeth y gymuned leol yn hanfodol. Rwy’n erfyn ar bawb i gefnogi mentrau gan eu hosbisau lleol a helpu i gynnal y gwasanaeth amhrisiadwy hwn.
Mae’r Wythnos Gofal Hosbis yn para rhwng 4 a 8 Hydref ac yn ddigwyddiad blynyddol lle mae Hospice UK a gofal hosbisau ledled y wlad yn cael ei gydnabod a’i ddathlu.
Mae angen cymorth, anogaeth a gofal ar bawb ac mae Hospice UK yn gweithio i sicrhau bod yr holl oedolion a phlant sy’n byw gyda salwch angheuol neu salwch sy’n cyfyngu ar eu bywydau yn derbyn y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen, pan fydd eu hangen.