Sam Rowlands MS for North Wales is calling on constituents interested in a career in the NHS to attend a recruitment open day next month.
Mr Rowlands, Conservative Member of the Welsh Parliament, is backing Betsi Cadwaladr University Health Board, who are holding the event to attract more nurses and apprentice healthcare support workers.
He said:
I am delighted to support such a worthwhile initiative and would urge anyone in North Wales looking to work within the NHS to go along to the open day.
I am particularly pleased to see the event is targeting people who want to become nurses as this is one area where we constantly hear of staff shortages.
Everybody knows we have major issues within the NHS in Wales and particularly in my region where the local health board and some services have been placed under targeted intervention, including Glan Clwyd Hospital.
Improving our health services is something I care about very deeply as people in North Wales deserve better. I make no apologies for constantly pushing so that vital issues are addressed and ensure my region does not get a rough deal.
The nurse and apprentice healthcare support worker recruitment open day is being held at Glan Clwyd Hospital on November 12 between 10am and 3pm.
Sam Rowlands AS yn cefnogi diwrnod recriwtio’r GIG yn Ysbyty Glan Clwyd
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y GIG i fynychu diwrnod recriwtio agored y mis nesaf.
Mae Mr Rowlands, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n cynnal digwyddiad i ddenu mwy o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd dan brentisiaeth.
Meddai:
Rwy’n falch iawn o gael cefnogi menter gwerth chweil fel hyn a byddwn yn erfyn ar unrhyw un yn y Gogledd sy’n chwilio am waith yn y GIG i alw heibio’r diwrnod agored.
Rwy’n falch iawn o weld y digwyddiad yn targedu pobl sydd am fod yn nyrsys gan fod hwn yn un maes lle’r ydym yn clywed yn gyson am brinder staff.
Mae pawb yn gwybod bod gennym broblemau mawr o fewn y GIG yng Nghymru ac yn enwedig yn fy rhanbarth i, lle mae’r bwrdd iechyd lleol a rhai gwasanaethau wedi’u gosod dan ymyrraeth wedi’i thargedu, gan gynnwys Ysbyty Glan Clwyd.
Mae gwella ein gwasanaethau iechyd yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon gan fod pobl y Gogledd yn haeddu gwell. Dydw i ddim yn ymddiheuro am ymgyrchu’n gyson i fynd o’r afael â materion hanfodol a sicrhau nad yw fy rhanbarth yn cael bargen wael.
Cynhelir y diwrnod agored i recriwtio nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd dan brentisiaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ar 12 Tachwedd rhwng 10am a 3pm.