Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to have their say on plans for walking, wheeling, and cycling in and around Brook Street.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
I am delighted to see that residents are being given the opportunity to share their views on what they think about the suggested ways of making every day journeys in and around Brook Street safer and easier.
Llangollen is an extremely popular tourist destination and as chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism, I think it is really important that any work carried out enhances the town.
The active travel consultation is now open and I would urge people who live work or travel in this area to make sure they have their say.
Denbighshire County Council is working with Sustrans to make walking, wheeling, and cycling for everyday journeys easier and safer in and around Brook Steet.
In March 2023, Denbighshire County Council alongside Sustrans asked the people who live, work, and travel on Brook Street to tell them which parts of Brook Street work well and which don’t.
The community response was that people were worried about vehicles travelling too fast, there were too many cars at school drop-off and pick-up times, roads were difficult to cross, and the footpaths were too narrow. As a result, Sustrans, working together with the local community, have found some ways to fix to these problems.
Sustrans, on behalf of the council, is now seeking feedback from the people that live, work, and travel on the selected streets who could benefit from the proposals, what they think about the plan for Brook Street that has been developed collaboratively.
Residents can find out more about the project and share their thoughts and feedback by going to Brook Street Active Travel Design.
An online survey is available until March 28 or you can attend an in-person workshop at: Workshop 1 at Ysgol Bryn Collen / Ysgol Gymraeg y Gwernant, on March 14 from 2.30-4pm or Workshop 2 at Llangollen Town Hall on March 14 from 6-8pm.
A paper version of the consultation can also be requested by contacting Sustrans Cymru via email: [email protected] or by writing to Sustrans at Sustrans Cymru, One Canal Parade, Dumballs Road, CF10 5BF Cardiff.
Sam Rowlands AS yn annog y cyhoedd i gyfrannu at gynlluniau teithio llesol ar gyfer Llangollen
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl i ddweud eu dweud ar gynlluniau ar gyfer cerdded a beicio yn Brook Street a'r cyffiniau.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol:
Dwi'n falch iawn o weld bod preswylwyr yn cael cyfle i rannu eu barn ar y dulliau a awgrymir o wneud teithiau bob dydd yn Brook Street a'r cyffiniau yn fwy hwylus a diogel.
Mae Llangollen yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, ac fel cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod unrhyw waith sy'n cael ei wneud yn gwella'r dref.
Mae'r ymgynghoriad ar deithio llesol ar agor erbyn hyn a byddwn yn annog pobl sy'n byw, yn gweithio neu'n teithio yn yr ardal i sicrhau eu bod yn dweud eu dweud.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda Sustrans i wneud cerdded a beicio ar gyfer teithiau bob dydd yn haws ac yn fwy diogel yn Brook Steet a'r cyffiniau.
Ym mis Mawrth 2023, gofynnodd Cyngor Sir Ddinbych, law yn llaw â Sustrans, i'r bobl sy'n byw, gweithio a theithio ar Brook Street i ddweud pa rannau o Brook Street sy'n gweithio'n dda a pha rannau sydd ddim yn gweithio cystal.
Roedd pobl yn poeni am gerbydau'n teithio'n rhy gyflym, bod gormod o geir adeg gollwng a chasglu plant o'r ysgol, ei bod hi'n anodd croesi’r ffyrdd, a bod llwybrau troed yn rhy gul. O ganlyniad, mae Sustrans, gan gydweithio â'r gymuned leol, wedi canfod ffyrdd o ddatrys y problemau hyn.
Mae Sustrans, ar ran y cyngor, yn gofyn am adborth yn awr gan y bobl sy'n byw, yn gweithio a theithio ar y strydoedd dan sylw a allai elwa ar y cynigion, i weld beth maen nhw'n ei feddwl am y cynllun ar y cyd sydd wedi’i ddatblygu ar gyfer Brook Street.
Gall preswylwyr ddysgu mwy am y prosiect a rhannu barn ac adborth trwy fynd i Brook Street Active Travel Design.
Mae arolwg ar-lein ar gael tan 28 Mawrth neu gallwch fynd i weithdy wyneb yn wyneb yn: Gweithdy 1 yn Ysgol Bryn Collen / Ysgol Gymraeg y Gwernant ar 14 Mawrth rhwng 2.30-4pm neu Weithdy 2 yn Neuadd y Dref Llangollen ar 14 Mawrth rhwng 6-8pm.
Mae fersiwn bapur o'r ymgynghoriad ar gael hefyd drwy gysylltu â Sustrans Cymru drwy e-bostio: [email protected] neu ysgrifennu at: Sustrans Cymru, One Canal Parade, Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5BF.