Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to have their say on plans to promote a popular tourist town in his region.
He said:
I think it is an excellent idea to let people who live, work and visit Llangollen to have their say on its future plans
I am delighted to see the project, in the Clwyd South constituency, coming to fruition thanks to funding from Round 1 of the UK Government’s Levelling Up Fund and a joint application for money from Denbighshire County Council and Wrexham County Borough Council.
It is great to see investment in this popular tourist destination which can only enhance and improve the area for local people and visitors alike. It is also good to see how the Levelling Up Fund is delivering for people in North Wales.
Llangollen's residents, businesses and visitors are being invited to share their views on a project aimed at promoting and enhancing the four great ‘highways’ of Llangollen: the Llangollen Canal and World Heritage Site, the former Ruabon to Barmouth railway line, the River Dee and Thomas Telford’s historic route, the A5 Holyhead Road.
The aim is to improve the visitor experience and increase the amount of time people choose to spend in the area. Proposed works include providing landscape and engineering improvement works to enhance accessibility and biodiversity, as well as making it easier for visitors to understand what is available in the area and how to find it.
The four key areas which have been identified are: Wharf; Access points to the Wharf, Railway and Lower Dee Mill Park; Lower Dee Mill Park and Signage & Wayfinding (including visitor information in car parks)
The Levelling Up Fund is intended to invest in infrastructure that improves everyday life across the UK. The fund supports town centre and high street regeneration, local transport projects, and cultural and heritage assets.
The Levelling Up funding allocated to Denbighshire in Round 1 amounts to £3.8m and will benefit the communities of Llangollen, Llantysilio, Corwen and surrounding areas.
To take part in this consultation, please get in touch with us in one of the following ways: Email: [email protected], Online: Complete the online feedback form on Denbighshire's County Conversation: https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/project/709
Complete a paper questionnaire: Llangollen Library, Castle Street, Llangollen, LL20 8NU or write to: Corporate Programme Office, Business Improvement & Modernisation, PO Box 62, Ruthin, Denbighshire, LL15 9AZ. Responses must be received by Sunday February 12 2023.
Sam Rowlands AS yn cefnogi cyfranogiad y cyhoedd mewn cynlluniau ar gyfer dyfodol Llangollen
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl i ddweud eu dweud ar gynlluniau i hyrwyddo tref boblogaidd ymhlith twristiaid yn ei ranbarth.
Dywedodd:
Dwi'n meddwl ei fod yn syniad penigamp rhoi cyfle i bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Llangollen gael dweud eu dweud am y cynlluniau ar gyfer ei dyfodol.
Rwy'n falch iawn o weld y prosiect, yn etholaeth De Clwyd, yn dwyn ffrwyth diolch i gyllid gan Rownd 1 Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chais ar y cyd am arian gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae'n wych gweld buddsoddiad yn y gyrchfan boblogaidd hon i dwristiaid a fydd yn gwella'r ardal i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd heb os. Da hefyd yw gweld sut mae'r Gronfa Ffyniant Bro yn darparu ar gyfer pobl yn y Gogledd.
Mae trigolion Llangollen, busnesau ac ymwelwyr yn cael gwahoddiad i rannu eu barn ar brosiect sy'n ceisio hyrwyddo a gwella pedair 'priffordd' enwog Llangollen: Camlas a Safle Treftadaeth y Byd Llangollen, yr hen reilffordd rhwng Rhiwabon ac Abermaw, yr Afon Dyfrdwy a llwybr hanesyddol Thomas Telford, Ffordd Caergybi yr A5.
Y nod yw gwella profiadau ymwelwyr ac annog pobl i ddewis treulio mwy o’u hamser yn yr ardal. Mae'r gwaith arfaethedig yn cynnwys gwneud gwaith gwella tirwedd a pheirianneg i wella mynediad a bioamrywiaeth, yn ogystal â'i gwneud yn haws i ymwelwyr ddeall beth sydd ar gael yn yr ardal a sut i ddod o hyd iddo.
Y pedwar maes allweddol sydd wedi’u nodi yw: Y Lanfa; Mannau mynediad i'r Lanfa, y Rheilffordd a Pharc Melin Isaf Dyfrdwy; Parc Melin Isaf Dyfrdwy ac Arwyddion a Chyfeirbyst (gan gynnwys gwybodaeth i ymwelwyr mewn meysydd parcio)
Bwriad y Gronfa Ffyniant Bro yw buddsoddi mewn isadeiledd sy'n gwella bywyd bob dydd ledled y DU. Mae'r gronfa’n cefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi a'r stryd fawr, prosiectau trafnidiaeth lleol, ac asedau diwylliannol a threftadaeth.
Mae'r cyllid Ffyniant Bro a ddyrannwyd i Sir Ddinbych yn Rownd 1 yn £3.8 miliwn a bydd o fudd i gymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a'r ardaloedd cyfagos.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cysylltwch â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol: E-bost: [email protected], Ar-lein: Llenwi'r ffurflen adborth ar-lein ar Sgwrs Sir Ddinbych: https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/project/709