Sam Rowlands MS for North Wales is appealing for local businesses to support a major jobs fair being held in his region in the Spring.
The free event is being organised by Communities For Work Flintshire, Jobcentre Plus and Careers Wales at Deeside Leisure Centre in April.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said he was delighted to see the fair returning to the county after an absence of three years.
He said:
I am pleased to promote this event which helps both employers looking to recruit and those looking for work.
It is an excellent initiative and brings together local employers, service providers and job seekers to help those people who want to work in this area.
It also gives genuine job seekers the opportunity to meet with prospective employers and discuss their requirements in various fields including retail, construction and the healthcare and leisure industry.
I would urge local businesses to support this event and sign up to take part.
The Flintshire Jobs Fair is being held at Deeside Leisure Centre from 10am -2pm on Thursday April 28 and organisers are now appealing to local employers for their support.
It will be a great opportunity to promote your business and find potential employees. In previous years over 800 people have attended and the event was supported by numerous employers with over 500 vacancies available in a variety of sectors.
There will also be practical advice on hand including a CV checkpoint area and help to write application forms from Careers Wales.
For more information contact Paul Murphy at Jobcentre Plus on 07748 881647 [email protected] or Nia Parry/Janiene Davies at Communities For Work [email protected] [email protected]
Sam Rowlands AS yn cefnogi dychweliad Ffair Swyddi Sir y Flint
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn apelio ar fusnesau lleol i gefnogi ffair swyddi fawr a gynhelir yn ei ranbarth yn ystod y Gwanwyn.
Mae’r digwyddiad am ddim yn cael ei drefnu gan Gymunedau am Waith Sir y Fflint, y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ym mis Ebrill.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid yn Llywodraeth Cymru ei fod yn falch o weld y ffair yn dychwelyd i’r sir ar ôl absenoldeb o dair blynedd.
Meddai:
Rwy’n falch o hyrwyddo’r digwyddiad hwn sy’n helpu cyflogwyr sydd am recriwtio a’r rhai sy’n chwilio am waith.
Mae’n fenter ragorol ac yn dod â chyflogwyr, darparwyr gwasanaethau a cheiswyr swyddi at ei gilydd i helpu’r bobl hynny sydd am weithio yn yr ardal hon.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i geiswyr swyddi gwirioneddol gyfarfod â darpar gyflogwyr a thrafod eu gofynion mewn gwahanol feysydd yn cynnwys manwerthu, adeiladu, gofal iechyd a’r diwydiant hamdden.
Byddwn yn annog busnesau lleol i gefnogi’r digwyddiad hwn a chofrestru i gymryd rhan.
Cynhelir Ffair Swyddi Sir y Fflint yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy o 10am -2pm ddydd Iau 28 Ebrill ac mae trefnwyr nawr yn apelio ar gyflogwyr lleol am eu cefnogaeth.
Bydd yn gyfle gwych i hyrwyddo’ch busnes a dod o hyd i weithwyr posibl. Yn y gorffennol mae dros 800 o bobl wedi mynychu a’r digwyddiad wedi’i gefnogi gan nifer o gyflogwyr gyda thros 500 o swyddi ar gael mewn gwahanol sectorau.
Bydd cyngor ymarferol ar gael yn cynnwys man gwirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647 [email protected] neu Nia Parry/Janiene Davies yn Cymunedau am Waith [email protected] [email protected]