Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people looking for a new career to attend a major jobs fair being held in the city later this month.
Mr Rowlands is supporting the UK Careers Fair which returns to the Ramada Plaza by Wyndham Hotel, Wrexham on Thursday October 31.
He said:
I am pleased to promote this event which not only helps employers looking to recruit but also offers excellent opportunities for those looking for a new or a change of career.
It is a really good initiative and gives people the chance to meet local and national employers face-to-face, and apply directly for hundreds of vacancies.
The event also gives genuine job seekers looking for a career the opportunity to talk to prospective local employers and discuss their requirements in various fields including education, healthcare, finance, retail and the healthcare and leisure industry.
It is well worth going along to explore the wide varieties of jobs available if you either want a new career or looking for a change.
The Wrexham Carers Fair is being held at the Ramada Plaza by Wyndham, Ellice Way, Wrexham on Thursday October 31 from 10am-2pm.
The event will offer candidates from all backgrounds, experience and education levels the opportunity to speak to representatives from an abundance of local employers, all in one place.
By attending the Wrexham Careers Fair, you will have the chance to explore a wide variety of organisations and job roles, which can save you a significant amount of time compared to submitting online applications. Instead, you can engage in direct conversations with employers to gain valuable insights into their company culture, benefits, and hiring requirements.
Exhibitors typically hail from a diverse array of sectors, including finance, education, sales and marketing, motoring, human resources, IT, healthcare, tourism, commercial real estate, biochemistry, electronics, manufacturing, hospitality, social work, events management, retail, job boards, supermarkets, banking, and pharmaceuticals.
The UK Careers Fair provides the ultimate networking platform for both candidates and employers in over 80 locations throughout the UK. The events are open to anyone and everyone and completely free to attend.
Sam Rowlands AS yn falch o weld Ffair Yrfaoedd Wrecsam yn dychwelyd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl sy'n chwilio am yrfa newydd i fynychu ffair swyddi fawr sy'n cael ei chynnal yn y ddinas yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi Ffair Yrfaoedd y DU sy'n dychwelyd i'r Ramada Plaza by Wyndham Hotel, Wrecsam ddydd Iau 31 Hydref.
Dywedodd:
Rwy'n falch o hyrwyddo'r digwyddiad hwn sydd nid yn unig yn helpu cyflogwyr sydd am recriwtio ond sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd ardderchog i'r rhai sy'n chwilio am yrfa newydd neu am newid gyrfa.
Mae'n fenter heb ei hail ac yn rhoi cyfle i bobl gwrdd â chyflogwyr lleol a chenedlaethol wyneb yn wyneb, a gwneud cais yn uniongyrchol am gannoedd o swyddi gwag.
Mae'r digwyddiad hefyd yn gyfle i geiswyr gwaith go iawn sy'n chwilio am yrfa i siarad â darpar gyflogwyr lleol a thrafod eu gofynion mewn meysydd amrywiol gan gynnwys addysg, gofal iechyd, cyllid, manwerthu a'r diwydiant gofal iechyd a hamdden.
Mae'n werth picio draw i fwrw golwg ar yr amrywiaeth eang o swyddi sydd ar gael os ydych chi naill ai eisiau gyrfa newydd neu fod awydd newid arnoch.
Cynhelir Ffair Yrfaoedd Wrecsam yn y Ramada Plaza by Wyndham, Ellice Way, Wrecsam ddydd Iau 31 Hydref rhwng 10am a 2pm.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i ymgeiswyr o bob cefndir, profiad ac addysg siarad â chynrychiolwyr cyflogwyr lleol, a fydd i gyd yn ymgynnull o dan yr un to.
Drwy fynychu Ffair Yrfaoedd Wrecsam, cewch gyfle i ystyried amrywiaeth eang o sefydliadau a swyddi, a all arbed cryn dipyn o amser i chi o'i gymharu â gwneud ceisiadau ar-lein. Yn hytrach, gallwch gael sgyrsiau uniongyrchol gyda chyflogwyr a chipolwg gwerthfawr ar ddiwylliant eu cwmni, eu buddion a’u gofynion cyflogi.
Mae arddangoswyr fel arfer yn dod o amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys cyllid, addysg, gwerthiant a marchnata, moduro, adnoddau dynol, TG, gofal iechyd, twristiaeth, eiddo tiriog masnachol, biocemeg, electroneg, gweithgynhyrchu, lletygarwch, gwaith cymdeithasol, rheoli digwyddiadau, manwerthu, byrddau swyddi, archfarchnadoedd, bancio a fferyllol.
Mae Ffair Yrfaoedd y DU yn darparu'r llwyfan rhwydweithio pennaf i ymgeiswyr a chyflogwyr mewn dros 80 o leoliadau ledled y DU. Mae'r digwyddiadau yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim.