Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing farmers protesting against the Welsh Government’s proposed sustainable farming scheme.
Mr Rowlands, a keen supporter of the agricultural industry, was commenting after farmers placed 5,500 empty wellies outside the Senedd today.
He said:
I don’t think I have ever seen so many protests against a Welsh Labour Government proposal.
The placing of empty wellies is a poignant reminder that the sustainable farming scheme could lead to 5,500 jobs in rural Wales being lost as a result, a £200 million hit to the economy, and around 11% fewer livestock in Wales for farmers.
In North Wales, we have seen tractors driving through Wrexham and along the A55 and in Rhyl to try and get the message across. Farmers do not want this new sustainable farming scheme and see the current proposals as an attack on rural Wales and the people who cultivate and nurture our land.
It was an extremely moving to see the display on the steps today and just shows the great depth of feeling from farming communities against this unacceptable proposed scheme and it needs to be withdrawn.
The consultation into this controversial scheme finishes tomorrow Thursday March 7 and I would urge those who have not taken part to make sure they do so.
Sam Rowlands AS yn cefnogi symbol ffermwyr ar risiau’r Senedd
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, yn cefnogi ffermwyr sy’n protestio yn erbyn cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru .
Roedd Mr Rowlands, cefnogwr brwd i’r diwydiant amaethyddol, yn siarad ar ôl i ffermwyr osod 5,500 o welingtons gwag y tu allan i’r Senedd heddiw.
Meddai:
Dwi ddim yn meddwl i mi weld cymaint o brotestiadau yn erbyn cynnig gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Mae gosod welingtons gwag yn symbol di-flewyn-ar-dafod y gallai’r cynllun ffermio cynaliadwy arwain at golli 5,500 o swyddi yng nghefn gwlad Cymru, ergyd gwerth £200 miliwn i’r economi, a thua 11% yn llai o dda byw yng Nghymru i ffermwyr.
Yn y Gogledd, rydyn ni wedi gweld tractorau’n gyrru drwy Wrecsam ac ar hyd yr A55 ac yn y Rhyl i geisio cyfleu’r neges. Dyw ffermwyr ddim am gael y cynllun ffermio cynaliadwy newydd hwn ac maen nhw’n gweld y cynigion cyfredol fel ymosodiad ar gefn gwlad Cymru a’r bobl sy’n trin ac yn meithrin ein tir.
Roedd gweld yr arddangosfa ar y grisiau heddiw mor drawiadol ac yn arwydd o’r teimladau cryf sydd gan gymunedau ffermio yn erbyn y cynllun arfaethedig annerbyniol hwn ac mae angen ei ddileu.
Mae’r ymgynghoriad ar y cynllun dadleuol hwn yn gorffen yfory, ddydd Iau 7 Mawrth, a byddwn yn annog y rhai sydd heb gymryd rhan i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny.