Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, urges residents in Wrexham to get involved with growing a better tomorrow.
Mr Rowlands, a keen supporter of supporting access to our natural environment, is backing an initiative to encourage more people to help plant trees in the county.
He said:
I am delighted to hear about Wrexham County Borough Council’s latest tree planting project and the way local people are being offered the chance to get involved.
I think it is vitally important we continue to improve our green spaces for everyone and as most people are aware, planting more trees not only increases biodiversity but also helps to create a better habitat for our plants and creatures who live there.
I would urge anyone who has some spare time and wants to volunteer to join the Council’s environment staff and help plant some trees at Bradley Playing Field later this month.
The tree planting, which is supported by Woodland Trust’s Emergency Tree Fund, takes place on the playing field on Saturday, November 25 between 10am and 4pm and everyone is welcome and urged to wear warm clothes and sturdy boots or wellies.
Wrexham council is committed to protecting trees and woodlands throughout county as part of the Tree and Woodland Strategy. In partnership with the Woodland Trust, Emergency Tree Fund it aims to increase canopy cover throughout the county.
It’s vital now more than ever utilise our open green spaces to respond to the nature and climate emergency we are facing. Tree planting projects such as this will build connectivity between existing habitats, improve ecosystem resilience as well as create inviting and enjoyable places to visit.
The council is always looking for schools, businesses and community groups to get involved with its tree planting schemes so if you are interested in volunteering or want to comment about the tree planting scheme please contact [email protected].
Sam Rowlands AS yn cefnogi menter plannu coed yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog trigolion Wrecsam i gymryd rhan mewn ymgyrch i dyfu gwell yfory.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o gefnogi mynediad i’n hamgylchedd naturiol, yn cefnogi menter i annog mwy o bobl i helpu i blannu coed yn y sir.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed am brosiect plannu coed diweddaraf Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'r ffordd y cynigir cyfle i bobl leol gymryd rhan.
Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn parhau i wella ein mannau gwyrdd i bawb ac fel y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol, mae plannu mwy o goed nid yn unig yn cynyddu bioamrywiaeth ond hefyd yn helpu i greu cynefin gwell i'n planhigion a'n creaduriaid sy'n byw yno.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â rhywfaint o amser sbâr ac sydd eisiau gwirfoddoli i ymuno â staff amgylchedd y Cyngor a helpu plannu rhai coed ar Gae Chwarae Bradley yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae'r plannu coed, a gefnogir gan Gronfa Coed Brys Coed Cadw, yn digwydd ar y cae chwarae ddydd Sadwrn, 25 Tachwedd rhwng 10am a 4pm ac mae croeso i bawb wisgo dillad cynnes ac esgidiau cadarn neu welis.
Mae Cyngor Wrecsam wedi ymrwymo i ddiogelu coed a choetiroedd ledled y sir fel rhan o'r Strategaeth Coed a Choetir. Mewn partneriaeth â Coed Cadw, Cronfa Coed Brys mae'n anelu at gynyddu gorchudd canopi ledled y sir.
Mae'n hanfodol nawr yn fwy nag erioed ein bod ni’n defnyddio ein mannau gwyrdd agored i ymateb i'r argyfwng natur a'r hinsawdd sy'n ein hwynebu. Bydd prosiectau plannu coed fel hyn yn adeiladu cysylltedd rhwng cynefinoedd presennol, yn gwella gwytnwch ecosystemau yn ogystal â chreu lleoedd hardd a phleserus i ymweld â nhw.
Mae'r cyngor bob amser yn chwilio am ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol i gymryd rhan yn ei gynlluniau plannu coed, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu os hoffech chi wneud sylwadau am y cynllun plannu coed, cysylltwch â [email protected].