Sam Rowlands Member of the Welsh Parliament for North Wales is calling on his constituents to support a fund raising event for Wales Air Ambulance.
Mr Rowlands, a keen supporter of the work of this charity, said:
I am delighted to back this brand new event and encourage everyone to take part and help raise money for Wales Air Ambulance as they celebrate their 23rd anniversary.
It really is an excellent idea and hopefully people will host their own Coffee and Cake party and invite friends and family. Why not sign up now?
I am a great supporter of Wales Air Ambulance, a charity, which carries out vital work across Wales and helps save hundreds of lives and deserves all our support.
Coffee and Cake is a brand-new event happening next month to celebrate the charity’s 23rd anniversary.
The charity is asking people across Wales and beyond to 'get together' and host their own event to raise money for Wales Air Ambulance.
Whether you gather with your friends and family, a virtual event, or a get together in the office, you will be raising vital pennies and pounds for Wales Air Ambulance, enabling them to deliver advanced lifesaving medical care to people across Wales, 24/7.
It doesn't matter if you're an avid baker or prefer to buy your cakes from a shop, the sales you make on your delicious treats will 'bake a difference'.
You can host your party at any time during the month of March, whenever suits you best.
The official start date is on Friday March 1, a poignant day for the charity as it's not only the celebrated day of Wales' patron Saint David but it's also their 23rd anniversary.
Whether you plan to raise £50 or £250, every donation is vital and no event is too big or too small.
To sign up all you have to do is complete the Coffee and Cake Registration form and we'll send your fundraising kit with top tips to get you started.
Sam Rowlands AS yn cefnogi parti Coffi a Chacen Ambiwlans Awyr Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi digwyddiad codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.
Meddai Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o waith yr elusen hon:
Rwy'n falch iawn o gefnogi'r digwyddiad newydd sbon hwn ac yn annog pawb i gymryd rhan a helpu i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru wrth i’r elusen ddathlu 23 mlynedd ers ei sefydlu.
Mae'n syniad gwych a gobeithio y bydd pobl yn cynnal eu partis coffi a chacennau eu hunain ac yn gwahodd ffrindiau a theulu. Does dim rheswm i beidio cofrestru nawr!
Rwy'n gefnogwr brwd o Ambiwlans Awyr Cymru, elusen sy'n gwneud gwaith hanfodol ledled Cymru. Mae’n helpu i achub cannoedd o fywydau ac yn haeddu ein holl gefnogaeth.
Mae Coffi a Chacen yn ddigwyddiad newydd sbon a gynhelir fis nesaf i ddathlu 23 mlynedd ers sefydlu’r elusen.
Mae'r elusen yn gofyn i bobl ledled Cymru a thu hwnt 'ddod at ei gilydd' a chynnal eu digwyddiad eu hunain i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.
P'un a ydych chi'n ymgynnull gyda'ch ffrindiau a'ch teulu, yn cynnal digwyddiad rhithiol, neu'n dod at eich gilydd yn y swyddfa, byddwch yn codi ceiniogau a phunnoedd hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru, gan eu galluogi i ddarparu gofal meddygol uwch sy'n achub bywydau pobl ledled Cymru, 24/7.
Does dim gwahaniaeth a ydych chi'n bobydd brwd neu'n os yw’n well gennych brynu'ch cacennau o siop. Bydd y gwerthiant a wnewch ar eich danteithion blasus yn gwneud gwahaniaeth.
Gallwch gynnal eich parti ar unrhyw adeg yn ystod mis Mawrth, pryd bynnag sy'n gyfleus i chi.
Y dyddiad cychwyn swyddogol yw dydd Gwener 1 Mawrth, diwrnod arbennig iawn i'r elusen gan ei fod nid yn unig yn ddiwrnod dathlu nawddsant Cymru, Dewi Sant, ond dyma hefyd ddiwrnod pen-blwydd yr elusen yn 23 oed.
P'un a ydych yn bwriadu codi £50 neu £250, mae pob rhodd yn hanfodol a does dim unrhyw ddigwyddiad yn rhy fawr neu'n rhy fach.
I gofrestru, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw llenwi'r ffurflen Cofrestru Coffi a Chacen a byddwn yn anfon eich pecyn codi arian gydag awgrymiadau gwych i'ch rhoi ar ben ffordd.