Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls latest updates on roads returning to 30mph ‘a waste of time and money’.
Mr Rowlands, a long-time critic of the introduction of the 20mph default speed limit, which was introduced in September 2023, was commenting after the First Minister, Eluned Morgan, said she had visited a road in Flintshire which will be switched back to 30mph.
Councils across Wales, including Flintshire and Wrexham, are now changing some of the road speeds after the default implementation of 20mph.
He said:
I have said many times since this nonsensical law was introduced that it should be scrapped, particularly as public opinion is strongly against it.
Half a million people signed a Senedd petition against the policy, but this was totally ignored by the Labour-run Welsh Government and they pressed ahead without considering the terrible impact on our economy.
Motorists are sick and tired of the continuing saga which has been a complete waste of time and money, and now the Welsh Government are fudging the issue even further.
This law should be scrapped immediately, and local authorities should be making decisions on road speeds in consultation with local people.
Adfer ffyrdd i fod yn rhai 30mya eto - Sam Rowlands AS yn beirniadu’r saga
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn dweud bod diweddariadau ar ffyrdd yn dychwelyd i fod yn rhai 30mya yn 'wastraff amser ac arian'.
Roedd Mr Rowlands, beirniad hirdymor o gyflwyno'r terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya, a gyflwynwyd ym mis Medi 2023, yn gwneud ei sylwadau ar ôl i'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, ddweud ei bod wedi ymweld â ffordd yn Sir y Fflint a fydd yn cael ei newid yn ôl i fod yn un 30mya.
Mae cynghorau ledled Cymru, gan gynnwys Sir y Fflint a Wrecsam, bellach yn newid rhai ffyrdd yn ôl i fod yn rhai 30mya.
Dywedodd:
Rydw i wedi dweud droeon ers cyflwyno'r ddeddf hurt hon y dylid ei dileu, yn enwedig gan fod barn y cyhoedd yn chwyrn yn ei herbyn.
Fe wnaeth hanner miliwn o bobl lofnodi deiseb i'r Senedd yn erbyn y polisi, ond cafodd hyn ei anwybyddu'n llwyr gan Lywodraeth Lafur Cymru ac fe wnaethon nhw fwrw ymlaen heb ystyried yr effaith ofnadwy ar ein heconomi.
Mae modurwyr wedi hen syrffedu ar y saga barhaus sydd wedi bod yn wastraff llwyr o amser ac arian, ac mae Llywodraeth Cymru bellach yn llaesu ei dwylo yn fwy nag erioed.
Dylid dileu'r gyfraith hon ar unwaith, a dylai awdurdodau lleol fod yn gwneud penderfyniadau ar gyflymder ffyrdd mewn ymgynghoriad â phobl leol.