Sam Rowlands MS for North Wales is backing a call for more volunteers to help with conservation in his region.
Mr Rowlands, a keen supporter of NWWT, said:
The Trust is looking for volunteers to help in the nature reserves all over North Wales with this month work parties taking place in places like Llyn Brenig and Minera Quarry in North East Wales to Cemlyn Nature Reserve on Anglesey and the Great Orme in Llandudno in North West Wales.
It is an amazing opportunity to get hands on for wildlife and a great way to meet new people and become involved with practical conservation work.
It is a wonderful idea if you like working outdoors and I would urge anyone interested to sign up to join a conservation work party.
North Wales has 35 nature reserves across the region with conservation work taking place every week throughout the year.
Volunteering days usually take place from 10am until late afternoon and provide an interesting and lively mix of practical work and informal training.
Each work day will consist of a brief introduction to the nature reserve and its management and there will also be some training in tool use and appropriate health and safety issues.
Details of the locations of our nature reserves and more information can be found on their website www.northwaleswildlifetrust.org.uk
Sam Rowlands AS yn galw ar ei etholwyr i gofrestru i helpu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Mae Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru yn cefnogi'r alwad am fwy o wirfoddolwyr cadwraeth yn ei ranbarth.
Dywedodd Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:
Mae'r Ymddiriedolaeth yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu mewn gwarchodfeydd natur ar hyd a lled y Gogledd gyda chriwiau gwaith yn ymgynnull y mis hwn mewn llefydd fel Llyn Brenig a Chwarel Minera yn y Gogledd-ddwyrain, Gwarchodfa Natur Cemlyn ar Ynys Môn a'r Gogarth yn Llandudno.
Mae'n gyfle gwych i wneud gwaith ymarferol dros fyd natur ac yn ffordd ardderchog o gwrdd â phobl newydd a chymryd rhan mewn gwaith cadwraeth.
Mae'n syniad gwych os ydych chi'n hoffi gweithio yn yr awyr agored a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â chriw gwaith cadwraeth.
Mae 35 o warchodfeydd natur ar draws y Gogledd gyda gwaith cadwraeth yn cael ei gynnal bob wythnos gydol y flwyddyn.
Mae diwrnodau gwirfoddoli fel arfer yn para o 10 y bore tan ddiwedd y prynhawn ac yn cynnig cymysgedd diddorol a bywiog o waith ymarferol a hyfforddiant anffurfiol.
Bydd pob diwrnod gwaith yn cynnwys cyflwyniad byr i'r warchodfa natur a'i rheolaeth a bydd rhywfaint o hyfforddiant hefyd ar ddefnyddio offer a materion iechyd a diogelwch priodol.
Mae manylion lleoliadau ein gwarchodfeydd natur a rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy